A490
ffordd dosbarth A yn Swydd Amwythig
Priffordd ym Mhowys yw'r A490, sy'n arwain o ychydig i'r gorllewin o Lanfyllin i'r Ystog.
Enghraifft o'r canlynol | ffordd dosbarth A |
---|---|
Rhanbarth | Swydd Amwythig |
Hyd | 22 milltir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreua'r ffordd o ychydig i'r gorllewin o Lanfyllin, lle mae'r B4391 a'r B4393 yn ymuno. Mae'n arwain tua'r dwyrain yn dilyn Afon Cain am dipyn, cyn troi tua'r de-ddwyrain. Mae'n cyd-redeg a'r briffordd A495 am ryw hanner milltir, cyn ymwahanu a throi tua'r de i groesi Afon Efyrnwy. Wrth fynd heibio'r Trallwng, mae'n cyd-redeg a'r A458 cyn ymwahanu eto a mynd ymlaen tua'r de-ddwyrain i groesi Afon Hafren.
Mae'n croesi i Swydd Amwythig yn Lloegr am ychydig. gan groesi Afon Camlad fymryn ar ôl croesi'r ffin, cyn dychwelyd i Gymru ger yr Ystog, lle mae'n ymuno a'r briffordd A489.