Croesoswallt
Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Croesoswallt (Saesneg: Oswestry).[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.
Math | tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 15,613 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.8598°N 3.0538°W |
Cod OS | SJ292293 |
Cod post | SY10, SY11 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 17,105.[2]
Bu'n dref Gymreig ers canrifoedd, yn wir dywed Gwefan Twristiaeth ardal Amwythig a Chroesoswallt: "Today the influence of Wales is still felt and you'll hear a blend of languages as you browse around." Arferid cyhoeddi papur wythnosol Y Cymro yno tan yn ddiweddar.
Lleolir Ysgol Croesoswallt yn y dref.
Hanes
golyguRoedd Croesoswallt mewn bodolaeth mor bell yn ôl a 1086, pan gofnodwyd yn Llyfr Domesday i'r siryf Rainald adeiladu castell yng nghantref Mersete. Er bod Croesoswallt yn sefyll i'r dwyrain o Glawdd Offa, daeth nifer o Gymry i fyw yn y dref yn y 11eg a'r 12eg ganrif. Ymwelwyd â'r dref gan Gerallt Gymro ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Derbyniodd Croesoswallt ei siarter gyntaf yn 1189-90, yr hon a elwir 'Y Siarter Gwtta' achos ei hyd; cyfeirir ati fel 'Blancminster' yn y ddogfen. Bwriad y ddogfen oedd cryfhau statws Croesoswallt fel tref farchnad.
Roedd Croesoswallt yn debyg i Berwick-upon-Tweed, yn dref ar ffin Lloegr a newidiodd ddwylo ar achlysuron di-ri yn ystod yr Oesoedd Canol. Pan oedd awdurdod y tywysogion Cymreig ar ei anterth, cipiwyd y dref gan y Cymry, ond ar y cyfan, doedden nhw ddim yn medru cadw'r dref am gyfnod hir cyn i'r brenin Seisnig ei ail-gipio. Enghraifft o hyn yw camp Madog ap Maredudd yn 1149, pan gipiodd y dref a dechrau adeiladu castell yno; roedd y dref yn rhan o Bowys tan o leiaf 1157, ond wedyn, pasiwyd y dref i'r arglwydd William Fitzalan gyda bendith Harri II. Cipiodd Llywelyn Fawr, Dafydd ap Gruffudd, ac Owain Glyndŵr y dref yn 1233, 1282, ac (ar fwy nac un achlysur) yn y 1400au cynnar yn eu tro. Fe'i llosgwyd gan Glyndŵr ar gymaint o achlysuron nes i'r dref dderbyn y ffugenw 'Pentrepoeth'.
Daeth Croesoswallt yn rhan o Loegr yn unol â'r Ddeddf Uno ym 1536.
Enwogion
golygu- Edward Kyffin (tua 1558–1603), bardd Cymraeg, brawd Morris Kyffin
- Wilfred Owen (1893-1918), bardd
Gweler hefyd
golyguLlenyddiaeth
golygu- John Pryce-Jones, Historic Oswestry (Shropshire Libraries, 1982); John Pryce-Jones, Oswestry: Parish, Church and People (Gwasg Llanforda, 2005).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 10 Medi 2020
- ↑ City Population; adalwyd 12 Ebrill 2021
Amwythig · Bridgnorth · Broseley · Cleobury Mortimer · Clun · Craven Arms · Croesoswallt · Church Stretton · Dawley · Yr Eglwys Wen · Ellesmere · Llwydlo · Madeley · Market Drayton · Much Wenlock · Newport · Oakengates · Shifnal · Telford · Trefesgob · Wellington · Wem