Dakar
Prifddinas Senegal yng ngorllewin Affrica yw Dakar. Saif ar benrhyn Cap-Vert ar yr arfordir. Amcangyfrifwyd yn 2005 fod y boblogaeth yn 1,030,594, gyda tua 2.45 miliwn yn yr ardal ddinesig.; hi yw dinas fwyaf Senegal.
Math | dinas â phorthladd, dinas fawr, city |
---|---|
Poblogaeth | 1,438,725 |
Pennaeth llywodraeth | Barthélémy Dias |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Woloffeg, Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cap Vert-Thies, Four Communes |
Sir | Dakar Department |
Gwlad | Senegal |
Arwynebedd | 82.5 km² |
Uwch y môr | 10 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 14.7319°N 17.4572°W |
Pennaeth y Llywodraeth | Barthélémy Dias |
Ymsefydlodd y Lebou, grŵp ethnig yn perthyn i'r Wolof a'r Sereer, yn yr ardal cyn y 15g. Cyhrhaeddodd y Portiwgeaid yn 1444, ac ymsefydlu ar ynys Gorée gerllaw. Ar y pryd, roedd y penrhyn dan reolaeth Ymerodraeth Jolof. Yn ddiweddarach, daeth yr ardal i gyd yn eiddo Ffrainc. Yn 1857, sefydlodd y Ffrancwyr ganolfan filwrol yn Ndakarou, dan yr enw "Dakar".
Mae'r ddinas yn adnabyddus fel man gorffen y Rali Paris-Dakar enwog.