Freddie Mercury
Roedd Freddie Mercury (ganed Farrokh Bulsara) (5 Medi 1946 – 24 Tachwedd 1991) yn gerddor Prydeinig a anwyd yn Sansibar. Mae'n fwyaf adnabyddus fel prif leisydd a chyd-sefydlwr y band roc Queen. Roedd yn enwog am ei allu lleisiol, ei garisma a'i berfformiadau byw. Fel cyfansoddwr, cyfansoddodd nifer o ganeuon o fu'n lwyddiannau rhyngwladol gan gynnwys "Bohemian Rhapsody", "Killer Queen", "Somebody to Love", "Don't Stop Me Now", "We Are the Champions" a "Crazy Little Thing Called Love". Yn ogystal â'i waith gyda Queen, cafodd yrfa unigol gyda pheth llwyddiant ac yn achlysurol gweithiodd fel cynhyrchydd a cherddor gwâdd (piano neu leisiol) i artistiaid eraill. Cyfeiriwyd at Mercury, a oedd o dras Indiaidd Parsî ac a fagwyd yn yr India, fel "seren roc Asiaidd gyntaf Prydain."[1] Bu farw o bronchopneumonia a achoswyd gan AIDS ar y 24ain o Dachwedd 1991, diwrnod yn unig ar ôl iddo gydnabod yn gyhoeddus fod ganddo'r clefyd. Yn 2006, enwodd Times Asia fel un o arwyr mwyaf dylanwadol Asia yn y 60 mlynedd diwethaf[2]. Fodd bynnag, fe'i beirniadwyd ef am gadw ei dras ethnig, ynghyd â'i rywioldeb a'i statws HIV, yn gyfrinach o'r cyhoedd.[3][4]
Freddie Mercury | |
---|---|
Ffugenw | Larry Lurex |
Ganwyd | Farrokh Bulsara 5 Medi 1946 Sansibar |
Bu farw | 24 Tachwedd 1991 o niwmonia'r ysgyfaint Garden Lodge, Kensington, Kensington |
Man preswyl | Garden Lodge, Kensington |
Label recordio | Columbia Records, Polydor Records, EMI, Parlophone Records, Hollywood Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Sultanate of Zanzibar |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, gitarydd, pianydd, cyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, canwr, cynhyrchydd, arlunydd, bardd, dylunydd graffig, cerddor roc |
Adnabyddus am | Bohemian Rhapsody, We Are the Champions, Love of My Life, Don't Stop Me Now |
Arddull | cerddoriaeth roc caled, roc glam, roc a rôl, roc poblogaidd, metal trwm traddodiadol, roc blaengar, disgo, classical crossover, neoclassicism, classic rock |
Prif ddylanwad | Lata Mangeshkar, Jimi Hendrix |
Tad | Bomi Bulsara |
Mam | Jer Bulsara |
Partner | Jim Hutton, Mary Austin |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes |
Gwefan | http://www.freddiemercury.com |
llofnod | |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Januszczak, Waldemar (1996), "Star of India" Archifwyd 2015-03-16 yn y Peiriant Wayback, The Sunday Times (Llundain), 17 Tachwedd 1996
- ↑ Fitzpatrick, Liam (2006), "Farrokh Bulsara" Archifwyd 2008-12-28 yn y Peiriant Wayback, Time Magazine, Asia Edition, 60 Years of Asian Heroes (Hong Kong: Time Asia) 168(21), 13 Tachwedd 2006
- ↑ Landesman, Cosmo (2006), "Freddie, a Very Private Rock Star" Archifwyd 2023-07-20 yn y Peiriant Wayback, The Sunday Times, 10 Medi 2006
- ↑ Cain, Matthew, cyfarwyddwr (2006), Freddie Mercury: A Kind of Magic, Llundain: British Film Institute