Cill Chainnigh

(Ailgyfeiriad o Kilkenny)

Tref yn Iwerddon yw Cill Chainnigh[1] (Saesneg: Kilkenny), sy'n dref sirol Swydd Cill Chainnigh yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain yr ynys tua 38 milltir i'r gogledd o Waterford a thua 65 milltir i'r de-orllewin o'r brifddinas, Dulyn. Saif ar lan Afon Nore. Roedd poblogaeth Cill Chainnigh yn y cyfrifiad diwethaf yn 22,179 (2011).

Kilkenny
Mathdinasoedd seremoniol yng Ngweriniaeth Iwerddon, dinas, cyngor tref yng Ngweriniaeth Iwerddon, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth22,179 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iYangzhou, Moret-sur-Loing, Formigine Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Kilkenny Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd26.76 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr60 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBallyragget Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6477°N 7.2561°W Edit this on Wikidata
Cod postR95 Edit this on Wikidata
Map

Dyma un o drefi hanesyddol mawr Iwerddon, gyda dwy gadeirlan, castell a nifer o adeiladau eraill. Ceir amgueddfa sy'n esbonio hanes Kilkenny yn Nhŷ Rothe. Yma hefyd mae bragdy E. Smithwick & Sons, hoff gwrw Iwerddon ar ôl Guinness.[2]

Adeiladau

golygu
  • Castell Kilkenny
  • Eglwys Gadeiriol Sant Canice (Protestannaidd)
  • Eglwys Gadeiriol y Santes Fair (Catholigaidd)
  • Priordy Sant Ioan
  • Yr Abaty Du

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  2. Clive James, Iwerddon (Gwasg Carreg Gwalch, 1993), t.156
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.