Ray Harryhausen

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Los Angeles yn 1920

Animeiddiwr stop-symud a chynhyrchydd ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Raymond Frederick Harryhausen (29 Mehefin 19207 Mai 2013)[1] oedd yn enwog fel gwneuthurwr a thechnegydd effeithiau arbennig ar ffilmiau antur, ffantasi a gwyddonias gan gynnwys Mighty Joe Young (1949), The Beast From 20,000 Fathoms (1952), Jason and the Argonauts (1963), The Valley of Gwangi (1969), a Clash of the Titans (1981).[2]

Ray Harryhausen
Ganwyd29 Mehefin 1920, 19 Mehefin 1920 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mai 2013 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Los Angeles City College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, animeiddiwr, llenor, sgriptiwr, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • George Pal Productions Edit this on Wikidata
Gwobr/auHessischer Verdienstorden, Winsor McCay Award, Gordon E. Sawyer Award, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Inkpot, Time Machine Award, The George Pal Memorial Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rayharryhausen.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Raymond Frederick Harryhausen yn Los Angeles, Califfornia, yn unig blentyn[2] i'r Americanwyr o dras Almaenig Frederick a Martha Harryhausen.[1] Roedd Frederick yn beiriannydd ac yn ddyfeisiwr.[2] Roedd gan y Ray ifanc ddiddordeb mewn deinosoriaid, ffantasi, ffilmiau, a chelfyddyd. Creodd fodelau clai o anifeiliaid cynhanesyddol ac epaod ac arbrofodd gyda chamera a fenthycodd gan wneud ffilmiau byrion yn y garej er nad oedd mecanwaith stop-ffrâm gan y camera. Cafodd Ray ei ysbrydoli yn ei arddegau pan welodd King Kong (1933), yr ail ffilm i ddefnyddio animeiddiad stop-symud ar ôl The Lost World (1925). Pan oedd Ray dal mewn ysgol uwchradd, cafodd apwyntiad i gyfarfod Willis O'Brien, yr animeiddiwr a weithiodd ar y ddwy ffilm honno. Dangosodd rhai o'i waith i O'Brien ac ar ei gyngor astudiodd Ray anatomeg a cherfluniaeth a mynychodd wersi nos mewn cynhyrchu ffilm.[1][2]

Gyrfa ffilm

golygu
"There’s a strange quality in stop-motion photography, like in King Kong, that adds to the fantasy. If you make things too real, sometimes you bring it down to the mundane."
Ray Harryhausen yn 2006.[2]

Treuliodd Ray Harryhausen ei flynyddoedd cynnar yn y diwydiant ffilm yn dechnegydd i Paramount gan weithio ar y ffilmiau stop-symud byrion Puppetoon, ffilmiau hyfforddi difyr ar gyfer Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[2] Ymunodd Harryhausen â'r Corfflu Signalau ym 1942[3] ac roedd yn aelod o uned ffilm Frank Capra a greodd y gyfres ddogfen Why We Fight.[4] Wedi'r rhyfel, creodd Ray ffilmiau byrion ei hunan o straeon yr Hen Fam Ŵydd ac ychydig o waith hysbysebu.[2]

Huriwyd Harryhausen gan O'Brien i animeiddio'r mwyafrif o'r ffilm Mighty Joe Young, a gynhyrchwyd gan Merian C. Cooper, cyfarwyddwr a chynhyrchydd King Kong.[2] Enillodd Mighty Joe Young Wobr yr Academi am effeithiau arbennig yn seremoni 1950.[5] Cafodd Harryhausen rhagor o lwyddiant ym 1952 gyda The Beast from 20,000 Fathoms sy'n seiliedig ar stori fer, "The Fog Horn", gan ei gyfaill Ray Bradbury. Yn sgil y ffilm hon enillodd Harryhausen enw am ddenu cynulleidfaoedd mawr gyda golygfeydd syfrdanol hyd yn oed os oedd arian yn brin.[2]

Y ffilm liw gyntaf iddo weithio arni oedd The 7th Voyage of Sinbad (1958). Yn y ffilm antur fytholegol hon, creodd amgylchfyd ac effeithiau y dychwelodd atynt yn Jason and the Argonauts a dwy ffilm arall am Sinbad.[2] Treuliodd Harryhausen tri mis yn ffilmio'r olygfa enwog o saith sgerbwd sy'n dod yn fyw yn Jason and the Argonauts.[4]

Aeth Harryhausen i Brydain i fanteisio ar y system o travelling mattes a ddatblygwyd gan y Rank Organization, er mwyn iddo gyfuno ffilm o actorion anferth ac actorion bychain yn yr un olygfeydd ar gyfer The Three Worlds of Gulliver (1959), ac yn fuan penderfynodd i fyw a gweithio ym Mhrydain. Creodd rhagor o greaduriaid cynhanesyddol yn Mysterious Island ac One Million Years B.C. Ym 1969 cynhyrchodd Harryhausen The Valley of Gwangi, ffilm am ddeinosoriaid yn y Gorllewin Gwyllt. Datblygodd O'Brien y stori hon yn y 1940au a llwyddodd Harryhausen i'w dod i'r sgrin er gwaethaf marwolaeth O'Brien ym 1962. Gweithiodd hefyd ar y ffilm ofod First Men in the Moon (1964).[2]

Creodd ragor o ffilmiau Dynamation yn y 1970au, ond roedd effeithiau arbennig optegol a digidol megis yn y ffilmiau Star Wars yn dominyddu'r farchnad. Yr epig Clash of the Titans oedd y llun mawr olaf iddo weithio arni. Roedd yn serennu Laurence Olivier a Maggie Smith a chafodd ei gwneud ar gyllideb fawr, ond methodd y dilyniant arfaethedig Force of the Trojans i ennill cefnogaeth gan stiwdio. Ei ffilm olaf oedd The Story of The Tortoise & the Hare, ffilm fer oedd yn hanner-orffenedig o ddechrau'i yrfa yn y 1950au. Cyflawnodd y ffilm hon gyda dau animeiddiwr ifanc yn 2002, gan ddefnyddio nifer o fodelau gwreiddiol oedd yng nghadw ers hanner canrif.[2]

Derbynodd Ray Harryhausen anrhydedd arbennig gan yr Academy of Motion Picture Arts and Sciences ym 1992 am ei "gyfraniadau technolegol sydd wedi dod â bri i'r diwydiant".[3] Cyflwynwyd y seremoni gan Tom Hanks, a ddatganodd taw Jason and the Argonauts yw'r ffilm orau erioed.[2] Cyflwynwyd y wobr i Harryhausen gan ei gyfaill Ray Bradbury.[3]

Bywyd personol

golygu

Priododd Diana Livingstone Bruce, un o ddisgynyddion y fforiwr David Livingstone,[2] ym 1962 a chafodd ferch, Vanessa.[1] Bu'n byw yn Llundain ers 1960[3] ac ymddangosodd yn aml mewn cynadleddau ffantasi. Yn 2010 rhoddodd ei holl gasgliad, tua 20,000 o eitemau, i'r National Media Museum yn Bradford.[4] Bu farw Ray Harryhausen yn Ysbyty Hammersmith yn Llundain yn 2013. Wedi ei farwolaeth talwyd teyrnged iddo gan nifer o enwau mawr y sinema, gan gynnwys Steven Spielberg, James Cameron, George Lucas, Peter Jackson, John Landis, a Nick Park.[4][6]

Roedd Harryhausen yn was priodas i Ray Bradbury.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Ray Harryhausen: An Animated Life (Aurum, 2003). Gyda Tony Dalton.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Whitaker, Sheila (7 Mai 2013). Ray Harryhausen obituary. The Guardian. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 (Saesneg) Lyons, Patrick J. (7 Mai 2013). Ray Harryhausen, Whose Creatures Battled Jason and Sinbad, Dies at 92. The New York Times. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Andrews, Nigel (11 Mai 2013). Ray Harryhausen, film animator. Financial Times. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 (Saesneg) Ray Harryhausen, visual effects master, dies aged 92. BBC (7 Mai 2013). Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
  5. (Saesneg) The 22nd Academy Awards (1950) Nominees and Winners. Academy of Motion Picture Arts and Sciences. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
  6. (Saesneg) De Semlyen, Phil (7 Mai 2013). Ray Harryhausen Has Died. Empire. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: