Roazhon

dinas yn Llydaw

Prifddinas Llydaw ydyw Roazhon (Ffrangeg: Rennes). Fe'i lleolir yn nwyrain Llydaw (Breizh-Uhel neu Lydaw Uchel), yng ngwladwriaeth Ffrainc. Yn ogystal â bod yn brifddinas rhanbarth (rannvro / région) Llydaw, mae Roazhon hefyd yn brifdref (pennlec'h / chef-lieu) Il-ha-Gwilen ac yn gartref i Gyngor Rhanbarthol Llydaw. Roazhon yw hefyd prifddinas Bro-Roazhon, un o naw hen fro hanesyddol Llydaw.

Roazhon
ArwyddairVivre en intelligence Edit this on Wikidata
Mathcymuned, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRiedones Edit this on Wikidata
Poblogaeth225,081 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNathalie Appéré Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Poznań, Caerwysg, Rochester, Erlangen, Brno, Sendai, Leuven, Corc, Sétif, Jinan, Almaty, Bandiagara Cercle, Sibiu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIl-ha-Gwilen
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Arwynebedd50.39 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr46 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Gwilun, Afon Il Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSant-Gregor, Kantpig, Reuz, Gwezin, Sant-Jakez-al-Lann, Noal-Kastellan, Saozon-Sevigneg, Lanvezhon / Bezhon, Menezgervant, Pazieg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.1142°N 1.6808°W Edit this on Wikidata
Cod post35000, 35200, 35700 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Roazhon Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNathalie Appéré Edit this on Wikidata
Map
Manylion
Tai canoloesol yn Plasenn Champ-Jacquet
Lleoliad Roazhon yn Ffrainc

Daearyddiaeth

golygu

Mae'r hen ddinas ei hun ar fryn ac mae'r rhan ogleddol yn uwch na'r rhan ddeheuol. Mae Roazhon wedi'i lleoli ar gymer afonydd Il (Ille) a Gwilen (Vilaine).

Prifddinas y Riedones, pobl geltaidd, oedd Roazhon, ha Condata oedd yr hen enw. Mae'r enwau Roazhon a Rennes yn dod o'r gair Riedones.

Yn Roazhon roedd y tywysogion yn cael eu goronu yn amser yr Annibyniaeth.

Poblogaeth

golygu

Mae poblogaeth y ddinas ar gynydd. Yn ôl amgangyfrifiad ym mis Chwefror 2012, roedd 209,860 o bobl yn byw yno. Roedd poblogaeth yr ardal fetropolataidd (Ffrangeg: aire urbaine) yn 690,467 yn ôl cyfrifiad 2012, gan olygu mai hi yw'r ddeuddegfed ardal fwyaf poblog yn Ffrainc gyfan. Gelwir y bobl sy'n byw yno yn "Rennais" (Roazhoniz, yn Llydaweg).

1793 1800 1806 1821 1831 1836 1841 1846 1851
30 160 25 904 29 225 29 589 27 340 35 552 37 895 39 218 39 505
1856 1861 1866 1872 1876 1881 1886 1891 1896
45 664 45 483 48 283 52 044 57 177 60 974 66 139 69 232 69 937
1901 1906 1911 1921 1926 1931 1936 1946 1954
74 676 75 640 79 372 82 241 83 418 88 659 98 538 113 781 124 122
1962 1968 1975 1982 1990 1999 2006 2007 2011 2013
151 948 180 943 198 305 194 656 197 536 206 229 209 613 207 922 208 033 211 373

Gweinyddiaeth

golygu

Mae'r ddinas wedi'i rhannu yn 11 o is-ardaloedd ac mae gan bob un ohonynt eu cynghorwyr eu hunain.

Golygfeydd

golygu

Mae Roazhon yn ddinas adnabyddus am ei hanes a'i phrydferthwch ac mae rhai adeiladau'n dyddio'n ôl mor bell â'r 14g.

 
Senedd Llydaw

Canolfan Hanesyddol

golygu

Bu Roazhon yn ganolfan bwysig, a gyda dinas Naoned a weithiau Gwened yn brifddinas Llydaw yn ystod cyfnod Dugaeth Llydaw. Mae hen Senedd Llydaw", "Parlement de Bretagne" neu "Breujoù Breizh" yn un o adeiladau enwocaf y ddinas. Cafodd ei hailgodi wedi tân a ddinistriodd yr adeilad ym 1994. Erbyn hyn, lleolir llys apêl y ddinas yno. Er i dân mawr ddinistrio llawer o'r tai pren traddodiadol, cafodd y ddinas ei hail-godi yn arddull Paris a cheir tai lliwgar traddodiadol a wneir o drawstiau pren ar hyd rhai o strydoedd y canol o hyd.

Trafnidiaeth

golygu

Mae rhwydwaith bysiau cynhwysfawr gan y ddinas, yn ogystal â llinell reilffordd danddaearol. Mae Roazhon yn un o ddinasoedd lleiaf y byd i fod â system o'r fath ac mae wedi lleihau traffig yng nghanol y ddinas yn sylweddol. Yn sgil llwyddiant y system bresennol, bwriedir sefydlu ail linell yn y dyfodol.

Mae trenau TGV yn cysylltu Roazhon â Pharis mewn ychydig dros ddwy awr ac mae maes awyr gan y ddinas yn St Jaques de la Lande.

 
Palas San Siôr: un o adeiladau mwyaf urddasol Roazhon. Codwyd yn wreiddiol fel abaty.

Diwylliant

golygu

Roazhon Llydaweg

golygu
 
Dim ond un ysgol Ffrangeg sydd yn cynnig dosbarthiadau Llydaweg.

Er nad yw Roazhon yn yr ardal hanesyddol Llydaweg ei hiaith, mae'r diwylliant i'w weld o gwmpas y ddinas. Cynhelir festoù-noz yn aml. Mae ysgol Lydaweg Diwan yn ne'r ddinas, ac ysgol ddwyieithog yng nghanol y ddinas. Gellir gweld ambell arwydd dwyieithog yn y strydoedd.

Mae'r Llydaweg yn cael ei dysgu yn y brifysgol, lle dysgir Cymraeg hefyd.

Yn ogystal â'r Llydaweg, mae Gallo hefyd yn cael ei siarad i ryw raddau yn y ddinas. Mae'r ddinas yn rhoi pwyslais ar y celfyddydau ac mae nifer o wyliau cerddorol a gweledol trwy gydol y flwyddyn. Mae'r Transmusicales yn denu nifer fawr o bobl sy'n heidio i weld y grwpiau rhyngwladol sy'n perfformio yno ac mae les Tombées de la Nuit yn dod â'r ddinas yn fyw yn yr haf. Mae Travelling (gŵyl sinema) yn adnabyddus dros ben yn Ffrainc am roi llwyfan i ffilmiau o un wlad ddethol bob blwyddyn. Roedd Roazhon yn un o ddinasoedd cyntaf Ffrainc i sefydlu ei sianel deledu ei hun, TV Rennes, a grëwyd yn 1987. Mae hefyd yn gartref i dîm pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghrair Ffrainc (Stade Rennais yw eu stadiwm).

Economi

golygu

Mae cynhyrchu ceir a thelegyfathrebu ymhlith prif ddiwydiannau'r ddinas. Agorwyd ffatri Citroën yno yn 1961.