Seineg
Astudiaeth seiniau iaith lafar yw seineg, ac fe ystyrir yn un o brif feysydd ieithyddiaeth, yr astudiaeth wyddonol o iaith. Yn seineg astudir priodweddau'r seiniau eu hunain, y modd y caent eu cynhyrchu, eu clywed a'u deall. Mae'n wahanol, felly, i ffonoleg, sef yr astudiaeth o systemau seinegol haniaethol. Mae seineg yn ymdrin â'r seiniau eu hunain yn hytrach na'u cyd-destyn mewn iaith. Ni thrafodir semanteg (sef astudiaeth ystyr ieithyddol) ar y lefel hon o ddadansoddiad.
Mae tair prif gangen i seineg:
- seineg ynganol, sy'n ymwneud â lleoliad a symudiad y gwefusau, y tafod, tannau'r llais ac yn y blaen;
- seineg acwstig, sy'n ymwneud â phriodweddau tonnau sain a sut caent eu derbyn gan y glust fewnol; a
- seineg clybydol, sy'n ymwneud â synhwyro lleisiau, yn bennaf sut mae'r ymenydd yn gallu cynrychioli mewnbwn lleisiol.
Astudiwyd seineg cyn gynhared â 2,500 mlynedd yn ôl yn yr India, gydag eglurhad y gramadegydd Pāṇini o leoliad a natur ynganiad cytseiniaid yn ei draethawd gramadegol ar Sansgrit.
Dolenni
golygu- 'Cyflwyniad i Ieithyddiaeth Golygyddion: Sarah Cooper a Laura Arman ar Porth Coleg Cymraeg Cenedlaethol