Sychdyn

pentref yn Sir y Fflint

Pentref bychan yng nghymuned Llaneurgain, Sir y Fflint, Cymru, yw Sychdyn.[1][2] Saif ar briffordd yr A5119, tua dwy filltir i'r gogledd o'r Wyddgrug.

Sychdyn
Ysgol Gynradd Sychdyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1892°N 3.1389°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ240664 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DURob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Neuadd Goffa Sychdyn.

Disgrifiad

golygu

Mae Sychdyn wedi ei amgylchynu gan dir fferm a choedwigoedd. Mae'n gartref i nifer o cymudwyr sy'n gweithio gerllaw yng Nghaer, Lerpwl neu Wrecsam. Mae tafarn y 'Cross Keys', siop SPAR, swyddfa bost, capel, ysgol marchogaeth, ac ysgol gynradd yn y pentref.

Mae Neuadd Goffa Sychdyn, a adeiladawyd yn 1911, yn gartref i nifer o gymdeithasau gan gynnwys Clwb Ieuenctid a'r "Red Dragon Lans". Gellir llogi'r neuadd ar gyfer achlysuron arbennig. Mae gan Sychdyn hefyd lawnt fowlio, cae pêl-droed a maes ar gyfer pop tywydd a all ei fwcio ar gyfer cynnal gemau. Eir trwy'r Arch Coffa Rhyfel er mwyn cyrraedd y lawnt bowlio, sy'n coffau'r rheiny a gollodd eu bywydau yn ymladd yn y lluoedd arfog.

Mae'r plas gwledig "Soughton Hall", sy'n sefyll i'r gogledd o'r pentref, wedi cael ei droi'n westy. Mae gwesteion o nod yn cynnwys Luciano Pavarotti, Michael Jackson a Juan Carlos I, Brenin Sbaen. Safai "Lower Soughton Hall" tua milltir i'r de o "Soughton Hall", ac mae'n gartref i'r chwarawr pêl-droed, Michael Owen.

Cynhelir carnifal Sychdyn yn flynyddol er mwyn codi arian tuag at cynnal mae chwarae'r pentref. Croronir y Frenhines Rhosyn ar ôl gorymdaith drwy'r pentref.

Mae Clwb Pêl-droed Sychdyn yn chwarae yng Nghyngrair Gyntaf Clwyd.

Daw'r enw "Sychdyn" o'r enw Saesneg Canol Soughton = South Town, sy'n golygu "tref y de".

Cynhaliodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sesiwn o'i lys ar gylch yno ar 27 Awst 1275.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU