William Haggar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) B c |
|||
Llinell 54: | Llinell 54: | ||
{{DEFAULTSORT:Haggar, William}} |
{{DEFAULTSORT:Haggar, William}} |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[Categori:Genedigaethau 1851]] |
[[Categori:Genedigaethau 1851]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1925]] |
[[Categori:Marwolaethau 1925]] |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[Categori:Prosiect Wicipop]] |
[[Categori:Prosiect Wicipop]] |
Fersiwn yn ôl 11:01, 13 Medi 2017
William Haggar | |
---|---|
Ganwyd | Arthur William Haggar 10 Mawrth 1851 Dedham, Lloegr |
Bu farw | 4 Chwefror 1925 Aberdâr | (73 oed)
Gwaith | Cyfarwyddwr ffilm |
Gweithgar | 1901–1908 |
Brodor o Dedham, Essex, oedd Arthur William Haggar (10 Mawrth 1851 - 4 Chwefror 1925), cymeriad brith a ymgartrefodd yng nghymoedd de Cymru a Sir Benfro. Dechreuodd ei yrfa yn y byd adloniant fel aelod o gwmni theatr teithiol, cyn sefydlu ei gwmni ei hun ar y cyd â’i wraig Sarah, sef Haggar’s Castle Theatre. Magodd y ddau fusnes llwyddiannus yn ogystal â theulu mawr o un ar ddeg o blant – er dim ond wyth a oroesodd eu plentyndod. Bu’r teulu’n teithio mewn wagenni am dros bymtheng mlynedd ar hugain yn arddangos eu sioe, a’r teulu mawr hwn oedd un o seiliau llwyddiant Haggar oherwydd fe’i defnyddiai wrth gastio’i sioeau, gyda William Jnr., Fred, Jim, Nell, Walter, Violet, a Lily May ymhlith yr amlycaf. O 1885 ymlaen, de orllewin Lloegr a chymoedd diwydiannol de Cymru oedd prif ardal bywoliaeth Haggar, ardaloedd lle’r oedd adloniant masnachol sefydlog, megis theatrau, yn brin.
Ym 1898, bachodd Haggar ar y cyfle i ymwneud â chyfrwng newydd oedd yn prysur afael yn nychymyg y cyhoedd, sef ffilm. Yn ffair Aberafan ym mis Ebrill 1898 cyflwynodd Haggar ei berfformiad cyhoeddus cyntaf o’i sioe bioscope, sef Haggar’s Royal Electric Bioscope, oedd yn sinema deithiol, a bu’n llwyddiant ysgubol. Erbyn 1899 roedd Haggar wedi mabwysiadu’r cyfrwng yn llwyr ac wedi gosod ei gwmni theatr teithiol yng ngofal ei fab hynaf, William. Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd Haggar wedi taro ar y syniad o gynhyrchu ei ffilmiau ei hun a’u harddangos yn ei bioscope. Creodd ei ffilm gyntaf ym 1901, sef golygfeydd o drên yng ngorsaf Porth Tywyn, ffilm sydd bellach ar goll. Flwyddyn yn ddiweddarach, gan ddefnyddio cast cwmni theatr Will Jnr ac aelodau o’i deulu, ar leoliad ym Maesteg fe ffilmiodd y ddrama gyntaf i’w ffilmio yng Nghymru, sef The Maid of Cefn Ydfa. Seiliwyd naratif y ffilm ar stori wir am berthynas drasig y töwr a’r cerddor Wil Hopcyn â’r aeres Ann Thomas yn ardal Llangynwyd. Bu’n llwyddiant ledled Cymru, yn enwedig yn y cymoedd, ac roedd yn gymaint o ffefryn gan deulu Haggar nes y gwnaed fersiwn arall o’r stori ym 1908, ac un arall eto ym 1913–14 gan William Haggar Jnr yn Sir Benfro. Dim ond The Maid of Cefn Ydfa gan William Haggar Jnr sydd wedi goroesi, er ei bod yn anghyflawn.
Creodd Haggar amryw o ffilmiau yn ystod y blynyddoedd dilynol, ffilmiau ffuglen a dogfennol. Amcangyfrifir iddo gynhyrchu rhwng 40 a 60 o ffilmiau rhwng 1901 a 1909, gan ddefnyddio’i deulu fel cast, a’u dosbarthu trwy Brydain ac yn rhyngwladol, gan amlaf drwy Gaumont neu’r Warwick Trading Company. Roedd Haggar yn ddyfeisiwr heb ei ail a byddai’n gwthio ffiniau’n barhaus. Yn anffodus dim ond rhyw ddeg o’i ffilmiau sydd wedi goroesi (ac mae sawl un o’r rheini yn dameidiog), er bod ei ffilmiau yn parhau i gael eu darganfod ledled y byd, er enghraifft, Revenge! (1904) a ganfuwyd yn Llyfrgell y Gyngres yn Washington yn 2007. Mae’r ffilmiau sydd wedi goroesi yn dystiolaeth gadarn o afael sicr Haggar ar ramadeg a chonfensiynau cynnar ffilm ac iddo fod yn arloeswr o bwys yn hanes y cyfrwng.
Ymhlith y disgleiriaf o’i ffilmiau mae A Desperate Poaching Affray (1903), a ffilmiwyd yn Sir Benfro gyda’i fab hynaf, William Jnr, yn chwarae rhan un o’r potswyr. Credir ei bod ymhlith un o ddyrnaid o ffilmiau Prydeinig cynnar a ddylanwadodd ar naratif ffilmiau America, ac iddi ddylanwadu ar ddatblygiad is-genre y ffilmiau erlid a ddechreuodd yn America ym 1903 ac a ddaeth i’w anterth gyda Mack Sennett a’r Keystone Kops. Mae rhai yn honni hefyd mai hon yw’r ffilm erlid gyntaf erioed ac iddi ddylanwadu’n drwm ar Edwin S Porter a’i ffilm arloesol, The Great Train Robbery (1903). Yn A Desperate Poaching Affray gwelir tystiolaeth glir o ddealltwriaeth Haggar o’r angen i sicrhau dyfnder i’r digwyddiadau ar y sgrin ac i ychwanegu prysurdeb a chyffro er gwaetha’r ffaith fod y camera’n statig. Llwyddodd i wneud hyn drwy gyfarwyddo’r actorion i fynd i mewn ac allan o’r ffrâm yn agos iawn at y camera ac o onglau amrywiol. Ynddi hefyd y ceir yr olygfa panio gyntaf gan Haggar wrth i’r camera ddilyn y ddau botsiwr yn rhedeg o afael y ciperiaid a’r heddlu a neidio dros glwyd.
Ffilm arall sydd wedi goroesi ac sy’n cyfleu cyfraniad dyfeisgar Haggar i ddatblygiad naratif ffilm yw The Bathers’ Revenge (1904). Credir bod hon yn rhagflaenydd i’r math o ffilm a ddaeth yn enwog yn nyddiau Roscoe ‘Fatty’ Arbuckle a ‘Buster’ Keaton, sef y ‘gomedi mainc parc’. Ynddi gwelir cwpl yn caru ar fainc parc cyn cael trochfa wrth i griw o fechgyn dynnu’r fainc i’r afon mewn dial am i’r cwpl daflu dillad y llanciau oddi ar y fainc i’r llawr. Gwelir Walter Haggar, mab William Snr, yn chwarae rhan y ferch.
Nid nod Haggar oedd llunio adloniant uchel ael nac ychwaith archwilio gwreiddiau gwyddonol y cyfrwng neu ddogfennu digwyddiadau go iawn, fel y gwnâi Arthur Cheetham, ei gyfoeswr a weithiai yng ngogledd Cymru. Yn hytrach, gwell oedd gan Haggar ddarparu adloniant i’r dosbarth gweithiol, gan wneud hwyl am ben yr awdurdodau, megis yr heddlu a chrefydd, a hynny er gwaetha’r ffaith fod ei gyfnod mwyaf llwyddiannus fel cynhyrchydd ffilmiau yn cyd-fynd â phenllanw’r Diwygiad ymneilltuol yng Nghymru.
Yr amlycaf o’i ffilmiau am dor-cyfraith a thrais yw The Life of Charles Peace (1905), drama-ddogfen sy’n adrodd hanes gyrfa frith Charles Peace, y lleidr a’r llofrudd go iawn a grogwyd yng ngharchar Armley, Leeds, ym 1879. Walter Haggar sy’n chwarae rhan Charles Peace, ac mae’n cyflwyno’r troseddwr mewn golau digon ffafriol. Ceir yn y ffilm amryw o olygfeydd sy’n cyfleu natur frysiog ac amrwd y ffilmio, megis cath fach yn cael ei thaflu yn ôl i’r ffrâm wedi iddi grwydro o olwg y camera yn yr olygfa o Peace yn diddanu Mr a Mrs Dyson. Golygfa ddoniol arall yw’r un lle y mae Peace yn gwisgo fel clerigwr er mwyn twyllo’r heddlu sy’n ei erlid. Ar ôl iddo anfon yr heddweision sy’n chwilio amdano i’r cyfeiriad anghywir mae’n symud ymlaen at y camera ac yn bodio’i drwyn at gefnau’r heddlu. Yn ogystal â bod yn enghraifft brin o ddiffyg parch at y weinidogaeth a’r heddlu mae hon yn un o’r golygfeydd lle ceir y defnydd cyntaf o saethiad agos gan Haggar. Ef oedd y cyntaf i wneud hynny yng Nghymru. Erbyn creu’r ffilm hon ar leoliad yn Sir Benfro, roedd Haggar wedi llwyr feistroli’r camera a grym y cyfrwng, gan iddo drefnu arlliwio’r golygfeydd mewn amrywiol liwiau i adlewyrchu eu hawyrgylch. Ynddi hefyd ceir defnydd cynnar o ryng-deitlau, dyfais a roddai gymorth i’r gwyliwr ddeall naratif y stori mewn ffilmiau hwy na munud neu ddwy. Pur anaml y defnyddid rhyng-deitlau cyn 1905.
Nid creu ffilmiau ar leoliad yn y cymoedd a Sir Benfro oedd unig gymwynas Haggar i hanes ffilm Cymru; bu ei gyfraniad hefyd yn allweddol i lwyddiant y sinemâu. Wedi blynyddoedd o deithio de a gorllewin Cymru gyda chyfres o sioeau bioscope lliwgar, erbyn diwedd y 1910au perswadiwyd Haggar i sefydlu sinema sefydlog. Dewisodd Aberdâr fel lleoliad ei sinema sefydlog gyntaf, gan greu sinema mewn caban dros dro o’r enw Haggar’s Electric Coliseum yn Stryd y Farchnad ym 1910. Ailfedyddiwyd y sinema ym 1912 yn Haggar’s Electric Palace. O fewn blwyddyn roedd Haggar wedi ei ethol i Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr ac fe’i hetholwyd y flwyddyn ganlynol yn aelod o Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr. Roedd yn brysur ymbarchuso gan ddod yn aelod blaenllaw a dylanwadol o’i gymuned. At hynny, aeth aelodau teulu Haggar yn eu blaen i sefydlu a rheoli sinemâu ledled de Cymru. Adeiladwyd, er enghraifft, sinema newydd ym Merthyr ym 1910, agorwyd dau yn Llanelli, sef Haggar’s Theatre a agorwyd ym 1910 ac a reolwyd gan ei fab James, a’r Hippodrome a reolwyd gan fab arall, Walter. Ym 1912 agorwyd y Palace yn Aberpennar a Haggar’s Theatre and Bioscope Palace ym Mhontarddulais lle y bu tân difrifol a ddinistriodd nid yn unig yr adeilad ac offer cwmni theatr Walter Haggar ond, yn fwy torcalonnus, nifer fawr o ffilmiau William Haggar Snr. Dyma golled amhrisiadwy i hanes ffilm Cymru a’r byd. Ond ar 23 Awst 1915, yn goron ar ymerodraeth Haggar, agorwyd y Kosy Kinema yn Aberdâr, a hynny y tu draw i’w hen stondin yn Stryd y Farchnad. Yr oedd yn adeilad hardd iawn a gynlluniwyd yn ofalus ac a ddarparai adloniant i 700 o bobl gyda cherddorfa chwe darn yn cyfeilio’r ffilmiau.
Bu cyfraniad William Haggar, a fu farw yn Aberdâr ar 4 Chwefror 1925, o anhraethol bwys yn nyddiau cynnar y cyfrwng a thrwy gydol yr 20g bu ei ddisgynyddion yn rheoli degau o sinemâu ledled de a gorllewin Cymru, gan ddiddanu cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Dyma arloeswr lliwgar a sicrhaodd fywoliaeth deg i’w hun yng nghymunedau tlawd de a gorllewin Cymru ond a adawodd ei ôl hefyd ar lwyfan rhyngwladol y cyfrwng ffilm.
Bywgraffiad gan Dr. Gwenno Ffrancon.
Cyfeirnodau
- David Berry, Wales and Cinema – The First Hundred Years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
- Noel Burch, Life to Those Shadows (Llundain: BFI, 1990)
- Noel Burch, In and Out of Synch (Aldershot: Scolar Press, 1991)
- Roy Haggar, gor-ŵyr William Haggar, yn trafod hanes ei deulu
- Stephen Herbert a Luke McKernan (goln), Who’s Who of Victorian Cinema (Llundain, 1996)
- Geoffrey Hill, ‘William Haggar, Pioneer of the Cinema in Wales’, Old Aberdare, Cyfrol 6 (Caerdydd, 1989)
- Peter Yorke, William Haggar, Fairground film-maker (Accent Press, 2007)
- Llyfrgell Rhondda Cynon Taf yn trafod William Haggar
- Ysgrif David Berry ar ‘William Haggar’ ar Screenonline
- William Haggar ar BBC Wales Arts
- John Jenkins, 'A Penny for Your Dreams', Film and TV Technician, Tachwedd 1987, tt. 8–9.
- Lily May Richards, bywgraffiad anghyhoeddedig o William Haggar sydd ar gael yn llyfrgell y BFI.