Ysgawen
Ysgawen | |
---|---|
Aeron yr ysgawen | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Dipsacales |
Teulu: | Adoxaceae |
Genws: | Sambucus |
Rhywogaeth: | S. nigra |
Enw deuenwol | |
Sambucus nigra L. |
Coeden yw'r ysgawen (Lladin: Sambucus nigra; Saesneg: Elder). Coeden â chryn dipyn o goelion (neu ofergoelion) yn perthyn iddi; credir er enghraifft ei bod yn cadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Defnyddid ei blodau, sy'n tyfu ym Mehefin, i wella llais cryg neu annwyd cas.
Mae'r ffrwyth yn edrych fel grawnwin bychain ac yn llawn o rinweddau.
Perthynas â phobl
[golygu | golygu cod]Wrth ymweld â Chymru yn 2010 dangosodd Mathilde Becam, Llydawes ieuanc o Lampaul-Guillimiau, sut i wneud sifflet, neu chwiban o frigyn ysgaw sy’n gwneud sŵn tebyg i gorn Llydewig. Tynnwch y canol allan yn ofalus gyda chŷn a gwnewch dwll tua chentimedr o un pen. Clymwch ddarn o fag plastic tenau dros y pen hwnnw a lleisiwch drwy’r twll. Mae’r sŵn yn rhyfeddol.[1]
Rhinweddau meddygol
[golygu | golygu cod]Dylid casglu wyth neu ddeg o ddail y 'sgawen a'u torri'n fân a'u berwi am ddeng munud mewn hanner peint o ddŵr, gyda mêl i'w felysu os oes angen. Mae'n ddull gwych a naturiol i glirio'r croen o unrhyw smotiau ac amhuredd ac i lanhau'r perfedd.
Gallwch ddefnyddio blodau'r ysgwaen (tuag owns) mewn peint o ddŵr a'u trwytho am ddeng munud, ei hidlo a'i yfed deirgwaith y dydd at gatár, bronceitis, y frech goch, gwynegon (neu gricmala) dolur gwddw neu at gowt.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 30
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.