Gwrddelw
Gwedd
Gwrddelw | |
---|---|
Ganwyd | Caerllion |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 6 g |
Cysylltir gyda | Yr Hen Ogledd, Llanddewi Brefi |
Dydd gŵyl | 1 Tachwedd |
Sant Cymreig oedd Gwrddelw (bl. 6g), a gysylltir â Cheredigion a Gwent.[1]
Ychydig iawn a wyddom amdano. Yn ôl yr achau traddodiadol roedd yn un o feibion niferus Caw ('Caw o Brydyn' neu 'Caw o Brydain'), brenin o'r Hen Ogledd a gyfrifid yn sant ar ôl ei farw. Ceir rhestr o 21 o'i blant yn chwedl Culhwch ac Olwen.[1]
Cysylltir Gwrddelw â Chaerleon. Roedd Capel Gartheli yn Llanddewi Brefi yn un o'i sefydliadau hefyd.[1]