Atomfa Zaporizhzhia
Trem ar Atomfa Zaporizhzhia yn y tu blaen, gyda'i dau dŵr oeri (chwith) a chwech adeilad adweithydd. Yn y cefn gwelir simneioedd yr orsaf drydan gwresol. | |
Math | atomfa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Enerhodar |
Sir | Enerhodar, Zaporizhzhia Oblast |
Gwlad | Wcráin |
Cyfesurynnau | 47.5083°N 34.5917°E |
Rheolir gan | Energoatom |
Perchnogaeth | Energoatom |
Atomfa a leolir yn Oblast Zaporizhzhia yn ne-ddwyrain Wcráin yw Atomfa Zaporizhzhia (Wcreineg: Запорізька атомна електростанція Zaporizʹka atomna elektrostantsiya). Hon yw'r orsaf ynni niwclear fwyaf yn Ewrop, ac un o'r 10 atomfa fwyaf yn y byd. Saif yr orsaf, a adeiladwyd yng nghyfnod Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin yn y 1980au, ar lan ddeheuol Cronfa Ddŵr Kakhovka ar Afon Dnieper, ger dinas Enerhodar a rhyw 50 km i dde-orllewin dinas Zaporizhzhia. Lleolir gorsaf drydan gwresol Zaporizhzhia rhyw 3 km o'r atomfa.
Rheolir yn swyddogol gan Energoatom, yr un cwmni sydd yn rheoli'r tair atomfa arall yn Wcráin. Yn sgil goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022, cipiwyd Atomfa Zaporizhzhia gan luoedd Rwsiaidd a fe'i rheolir bellach mae'n debyg gan y cwmni Rosatom,[1] a'r gweithwyr Wcreinaidd dan oruchwyliaeth rheolwyr Rwsiaidd.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Invaders seize Zaporizhzhia power plant and claims it is part of Rosatom", Ukrayinska Pravda (12 Mawrth 2022).
- ↑ (Saesneg) Edith M. Lederer, "UN nuclear chief: Ukraine nuclear plant is `out of control’", AP News (3 Awst 2022).