Neidio i'r cynnwys

Llabed y glust

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Llabed y glust a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 09:55, 30 Rhagfyr 2022. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Llabed y glust
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathisraniad o odre'r glust, endid anatomegol arbennig, blaen trwyn a llabedi clustiau Edit this on Wikidata
Rhan ogodre'r glust Edit this on Wikidata

Mae llabed y glust ddynol (lobulus auriculae) wedi'i gyfansoddi o feinweoedd cysylltiol areolaidd a blongog, sydd a llai o gadernid ac elastigedd gweddill godre'r glust (strwythur allanol y glust). Mewn rhai achosion, mae rhan isaf y llabed wedi'i chysylltu ag ochr y wyneb. Gan nad yw llabed y glust yn cynnwys cartilag[1] mae ganddo gyflenwad mawr o waed a gall helpu i gynhesu'r glust a chadw cydbwysedd. Fodd bynnag, nid yw llabedau'r glust yn cael eu hystyried o unrhyw ddefnydd biolegol arwyddocaol.[2] Mae'r llabed yn cynnwys nifer o derfynau nerf, ac i rai pobl yn barth nwydus.

Yn ei lyfr The Naked Ape (1967), cyflwynodd y swolegydd Desmond Morris y ddamcaniaeth bod y llabedau wedi datblygu fel parth nwydus ychwanegol er mwyn hwyluso'r rhywioldeb estynnol oedd yn angenrheidiol yn esblygiad paru unweddog rhwng bodau dynol.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Steinberg, Avraham (2003). Encyclopedia of Jewish Medical Ethics: a Compilation of Jewish Medical Law on All Topics of Medical Interest. Jerusalem: Feldheim Publishers. p. 350. ISBN 1583305920.
  2. Popelka (31 August 1999). "Re:Why do we have earlobes, what are they for, since when?". MadSci Network. Cyrchwyd 16 July 2015.
  3. Desmond Morris The Naked Ape: A Zoologist's Study of the Human Animal (Hardback: ISBN 0-07-043174-4; Reprint: ISBN 0-385-33430-3) Jonathan Cape, 1967 . Chapter 2, page 59 of Corgi paperback ed