Neidio i'r cynnwys

Barriff Mawr

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:39, 14 Chwefror 2012 gan VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llun lloeren o'r Barrif Mawr

Y Barriff Mawr, hefyd Bariff Mawr (Saesneg: Great Barrier Reef) yw'r system rîff cwrel mwyaf yn y byd. Saif yn y Môr Cwrel ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Awstralia, i'r dwyrain o dalaith Queensland. Mae'n ymestyn o ynysoedd Lady Elliott ger arfordir de Queensland hyd Gwlff Papua, pellter o fwy na 2,000 km. Daw o fewn 30 km i'r arfordir ger Cairns, tra mae tua 250 km o'r arfordir ger Gladstone.

Y Barriff Mawr yw atyniad twristaidd mwyaf Awstralia, a threfnir teithiau o drefi megis Cairns a Townsville i'w weld. Awgryma astudiaethau gwyddonol diweddar fod y riff yn awr yn tyfu'n arafach nac yn y gorffennol, gan fod y cwrel yn cymeryd llai o galch o ddŵr y môr. Gall hyn fod o ganlyniad i gynhesu dŵr y môr o'i amgylch neu oherwydd fod y cynnydd yn y ganran o garbon diocsid yn yr awr yn effeithio ar y dŵr.

Dynododd UNESCO y Barriff Mawr yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1981.