Cell gwaed gwyn
Enghraifft o'r canlynol | math o gell |
---|---|
Math | cell waed, cell hemal gwahaniaethol, immune cell |
Rhan o | gwaed |
Yn cynnwys | monocyt, lymffocyt, niwtroffil, basoffil, eosinophil |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cell waed di-liw amebaidd cnewyllol heb hemoglobin yw cell wen y gwaed (hefyd gwaetgell wen, corffilyn gwyn neu'n feddygol lewcosyt; lluosog: celloedd gwynion), sy'n rhan o'r system imiwnedd sy'n gyfrifol am amddiffyn y corff drwy ymladd micro-organebau drwg a chlefydau heintus. Cynhyrchir y gell wen ym mêr yr asgwrn. Mae'r gell yn tarddu o'r fôn-gell (stem cell) a elwir yn fôn-gell waedfagol (hematopoietig). Maent i'w cael ym mhob rhan o'r corff gan gynnwys y gwaed a'r system lymffatig.[1]
Ceir pum math o gell wen[2] a chânt eu dosbarthu a'u gwahaniaethu drwy faint a siâp y gell yn ogystal â'u gwaith.
Mae eu nifer yn dangos cyflwr y corff; gall ormod neu ddim digon ohonyn nhw fod yn arwydd o lewcemia neu ddiffyg haearn yn y corff. Gellir dweud, felly, fod y gell wen yn ddangosydd afiechyd. Mae'r gell iach rhwng 4 ac 119/L. Yn yr Unol Daleithiau, caiff ei fynegi fel 4,000–11,000 cell wen / microlitr o waed.[3] Dyma 1% o holl waed corff dynol oedolyn iach.[4] Pan fo nifer y celloedd gwyn yn uwch na'r norm, ceir lewcosytosis a phan fo'r nifer yn is, ceir lewcopenia.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r enw o liw'r gell, wedi i waed gael ei gylchdroi ar beiriant mewn labordy. Dônt at ei gilydd yn haen denau rhwng y celloedd cochion a'r plasma gwaed. Y gair gwyddonol yw leukocytes sydd hefyd yn tarddu o liw'r celloedd: y Groeg am 'wyn' yw leuko-' ac ystyr kytos yw llestr wag; trydydd rhan o'r gair yw -cyte sy'n cyfeirio at y gell ei hun. Ar adegau ceir gwawr werdd i'r lliw gwyn yn enwedig pan fo llawer o neutroffiliau yn y sampl oherwydd eu bod yn cynhyrchu cryn dipyn o'r ensym myeloperoxidase.
Mathau
[golygu | golygu cod]Math | Golwg (micrograff) | Darlun | Bras % mewn oedolyn | Diamedr (μm)[5] | Prif dargedau[4] | Cnewyllyn[4] | Gronynnau[4] | Hyd oes[5] |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Niwtroffil | 62% | 10–12 | Aml-labedog | Mân, gyda gwawr binc | 6 awr - ychydig ddyddiau | |||
Eosinoffil | 2.3% | 10–12 |
Parasytig a llidiol |
Dwylabedog | Pinc-oren | 8–12 diwrnod | ||
Basoffil | 0.4% | 12–15 |
Cynhyrchu histamin |
Dwylabedog neu drillabedog | Mawr, glas | Oriau - dyddiau | ||
Lymffosyt | 30% | Bach: 7–8 Mawr: 12–15 |
Celloedd B a T: rhyddhau gwrthgyrff; ceir eraill. |
Ecsentrig | Celloedd-NK a chytotocsig (CD8+) celloedd-T | Celloedd yr ymennydd: blynyddoedd. Gweddill: wythnosau. | ||
Monosyt | 5.3% | 12–15[6] | Gallant symud o'r gwaed i feinweoedd amrywiol y corff ee i'r iau. | Arenffurf | Dim | Oriau - dyddiau |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Maton, D., Hopkins, J., McLaughlin, Ch. W., Johnson, S., Warner, M. Q., LaHart, D., & Wright, J. D., Deep V. Kulkarni (1997). Human Biology and Health. Englewood Cliffs, New Jersey, US: Prentice Hall. ISBN 0-13-981176-1.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ LaFleur-Brooks, M. (2008). Exploring Medical Language: A Student-Directed Approach (arg. 7th). St. Louis, Missouri, US: Mosby Elsevier. t. 398. ISBN 978-0-323-04950-4.
- ↑ "Vital and Health Statistics Series 11, Rhif. 247 (03/2005)" (PDF). Cyrchwyd 2014-02-02.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Bruce Alberts, Alexander Johnson, Julian Lewis, Martin Raff, Keith Roberts, and Peter Walter (2002). "Leukocyte functions and percentage breakdown". Molecular Biology of the Cell (arg. 4th). Efrog Newydd: Garland Science. ISBN 0-8153-4072-9.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ 5.0 5.1 Daniels, V. G., Wheater, P. R., & Burkitt, H.G. (1979). Functional histology: A text and colour atlas. Edinburgh: Churchill Livingstone. ISBN 0-443-01657-7.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Handin, Robert I.; Samuel E. Lux; Thomas P. Stossel (2003). Blood: Principles and Practice of Hematology (arg. 2nd). Philadelphia: Lippincott Williams and Wilkins. t. 471. ISBN 9780781719933. Cyrchwyd 2013-06-18.