Neidio i'r cynnwys

Lefant

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 03:32, 20 Tachwedd 2012 gan ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
Y Lefant
Y Lefant tua'r flwyddyn 800 CC

Y Lefant (o'r Ffrangeg Levant; lle gwawria'r haul) yw'r enw traddodiadol ar yr ardal ar arfordir dwyreiniol y Môr Canoldir sy'n cael ei chynnwys heddiw yng ngwladwriaethau Twrci (cornel dde-ddwyreiniol y wlad), Syria (ac eithrio'r rhannau dwyreiniol), Libanus ac Israel. Fe'i gelwir hefyd "y Dwyrain Agos" ac mae'r Sinai a rhannau o Wlad Iorddonen yn cael eu cynnwys yn yr ardal weithiau yn ogystal.

Gelwid Syria a Libanus dan reolaeth mandad Ffrainc "Taleithiau'r Lefant".