Pontoise
Gwedd
Pontoise yw prifddinas swyddogol département Val-d'Oise yn région Île-de-France yng ngogledd Ffrainc. Er mai Pontoise yw'r brifddinas swyddogol, saif y ganolfan weinyddol, y préfecture yn nhref gyfagos Cergy, sefyllfa sy'n unigryw yn Ffrainc.
Saif Pontoise ar afon Oise, tua 30 km i'r gogledd-orllewin o ddinas Paris. Bu'r arlunydd Camille Pissarro yn byw yma am gyfnod hir, a darlunir y ddinas mewn llawer o'i weithiau.