Neidio i'r cynnwys

Bonaire

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 07:21, 1 Chwefror 2011 gan Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Lleoliad Bonaire

Ynys ym Môr y Caribî sy'n perthyn i Deyrnas yr Iseldiroedd yw Bonaire. Mae'n un o'r Ynysoedd ABC, sydd hefyd yn cynnwyd Aruba a Curaçao. Saif ychydig i'r gogledd o arfordir Venezuela, ac roedd y boblogaeth yn 13,389 yn 2010. Y brifddinas yw Kralendijk. Ger ei harfordir gorllewinol, mae ynys fechan Klein Bonaire.

Y boblogaeth frodorol oedd y Caiquetio, a gyrhaeddodd o Venezuela tua 1000. Yn 1499 glaniodd Alonso de Ojeda ac Amerigo Vespucci, a feddiannodd yr ynys i Sbaen. Cipiwyd yr ynys gan yr Iseldirwyr yn 1633. Yn yr 20fed ganrif, adeiladwyd maes awyr rhyngwladol, Maes Awyr Flamingo.