Arnhem
Gwedd
Math | bwrdeistref yn yr Iseldiroedd, dinas, llefydd gyda phoblogaeth dynol yn yr Iseldiroedd, dinas Hanseatig, man gyda statws tref |
---|---|
Poblogaeth | 164,096 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ahmed Marcouch |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gelderland |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Arwynebedd | 101.53 km² |
Uwch y môr | 13 metr |
Gerllaw | Nederrijn, Q2229833, Sint-Jansbeek, Afon Rhein, Afon IJssel, Lower Rhine |
Yn ffinio gyda | Apeldoorn, Rheden, Rozendaal, Overbetuwe, Westervoort, Ede, Lingewaard |
Cyfesurynnau | 51.98°N 5.92°E |
Cod post | 6800–6846 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Arnhem |
Pennaeth y Llywodraeth | Ahmed Marcouch |
Dinas yn nwyrain yr Iseldiroedd a phrifddinas talaith Gelderland yw Arnhem.
Saif ar Afon Nederrijn ("Rhein isaf"). Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 142,634; yr ail ddinas yn Glederland o ran poblogaeth, ar yn ôl Nijmegen (160,681).
Hanes
Crybwyllir Arnhem am y tro cyntaf mewn cofnod o'r flwyddyn 893 fel Arneym neu Arentheym, yn cyfeirio at yr eryrod oedd yn gyffredin yn yr ardal yr adeg honno. Daeth yn ddinas yn 1233, a daeth yn aelod o'r Cynghrair Hanseatig yn 1443.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Brwydr Arnhem yma, pan ollyngwyd milwyr Prydeinig ac o Wlad Pwyl i geisio cipio'r bont ym mis Medi 1944. Ni lwyddasant i feddiannu'r bont, a bu raid iddynt ildio i'r Almaenwyr. Y digwyddiadau yma oedd cefndir y ffilm A Bridge Too Far (1977).
Adeiladau a chofadeiladau
- Duivelshuis (neuadd y dref)
- Gelredome
- Groote Kerk (eglwys)
- KEMA Toren
- Nederlands Openluchtmuseum (amgueddfa)
Enwogion
- Hendrik Lorentz (1853-1928), ffisegydd
- Benjamin Prins (1860-1934), arlunydd
- Bernard Wagenaar (1894-1971), cyfansoddwr