Senedd yr Alban
Senedd yr Alban "Scottish Parliament" "Pàrlamaid na h-Alba" | |
---|---|
gohiriwyd | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Sefydlwyd | Mai 12, 1999 |
Math | Unsiambraeth |
Arweinyddiaeth | |
Llywydd | Alison Johnstone ACA ers 13 Mai 2021 |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 129 |
Grwpiau gwleidyddol | Llywodraeth
Yr Wrthblaid
Rheolaeth
|
Etholiadau | |
System bleidleisio | System Aelodaeth Ychwanegol |
Etholiad diwethaf | 6 Mai 2021 |
Etholiad nesaf | 7 Mai 2026 |
Man cyfarfod | |
Adeilad Senedd yr Alban, Holyrood, Caeredin | |
Gwefan | |
www.parliament.scot |
Senedd yr Alban yw corff deddfwriaethol datganoledig yr Alban. Fe'i lleolir yn Holyrood, sy'n rhan o Gaeredin a chaiff ei galw'n answyddogol, ar adegau, yn 'Holyrood'[1]. Mae gan Senedd yr Alban y grym i greu deddfau ar gyfer yr Alban a chodi neu newid trethi. Yn groes i gamdybiaeth gyffredinol, dydy'r Senedd ddim yn gorff 'newydd' gan ei bod yn deillio yn ôl i'r Oesoedd Canol. Mae hi'n gorff democrataidd sydd â 129 Aelodau Senedd yr Alban (Members of the Scottish Parliament (MSPs)) ac sy'n cael eu hethol am gyfnod o bedair mlynedd. Defnyddir y system etholiad cynrychioliadol yma, gyda 73 ASA yn dod o etholaethau daearyddol ("cyntaf i'r felin") a 56 yn cael eu hethol o wyth 'Rhanbarth Aelodau Ychwanegol' gyda phob Rhanbarth yn ethol saith ASA.
Roedd etholiad diwethaf y Senedd ar 5 Mai 2011. Dyma'r tro cyntaf y cafwyd llywodraeth fwyafrifol yn Holyrood. Enillodd yr SNP 69 o seddau.
Yn refferendwm 1997 pleidleisiodd pobl yr Alban dros ddatganoli a ffurfiwyd y Senedd bresennol drwy Ddeddf yr Alban 1998, sy'n rhestru pwerau Deddfau Datganoledig h.y. mae'n rhestru'r pwerau hynny a gedwir gan Senedd y Deyrnas Unedig (San Steffan).[2] Mae'r materion hynny nad ydynt yn cael eu rhestru yn gyfrifoldeb i Senedd yr Alban. Mae senedd y Deyrnas Unedig hefyd wedi cadw'r hawl i newid y rhestr, er mwyn ymestyn neu leihau pŵer y Senedd, fel y dymunont.[3]
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Llywodraeth ar 12 Mai 1999.[4]
Etholiadau
Cafwyd etholiadau cenedlaethol yn 1999, 2003, 2007, 2011, 2016 a 2021.
Yr adeilad
Ers Medi 2004, cartref swyddogol y Senedd yw 'Adeilad Senedd yr Alban', wedi'i leoli yn ardal Holyrood yng Nghaeredin. Fe'i cynlluniwyd gan bensaer o Gatalwnia, Enric Miralles, ac ymhlith yr agweddau mwyaf nodedig mae ei siap ffurf deilen, cangen o do gwydr ac olion carreg yr adeilad a'i rhagflaenodd. Ailadroddir rhai addurnau neu nodweddion, megis siapau'n adlewyrchu'r Skating Minister gan Raeburn.[5] Agorwyd yr adeilad gan frenhines Lloegr ar 9 Hydref 2004.
Cyfeiriadau
- ↑ "Scottish Parliament Word Bank"; 14-11-1999
- ↑ "Scotland Act 1998: Scottish Parliament Reserved Issues"; cyhoeddwyd gan "Office of Public Sector Information (OPSI)"; 14-11-2006
- ↑ Murkens, Jones & Keating (2002) pp11
- ↑ ""Scottish Parliament Official Report"; 12 Mai 1999; cyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban 05-11-2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-26. Cyrchwyd 2010-06-02.
- ↑ Charles Jencks (Ionawr 2005). "Identity parade: Miralles and the Scottish parliament: On the architectural territories of the EMBT/RMJM parliament building ". Architecture Today no.154 p.32–44. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-09. Cyrchwyd 7 Ionawr 2007.