Asid wrig
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | purine alkaloid |
Màs | 168.028 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₅h₄n₄o₃ |
Rhan o | urate oxidase activity, xanthine oxidase activity, urate-ribonucleotide phosphorylase activity, FAD-dependent urate hydroxylase activity, xanthine dehydrogenase activity, alpha-ketoglutarate-dependent xanthine dioxygenase activity, 8-oxoguanine deaminase activity, urate transport, urate catabolic process, urate metabolic process, urate:anion antiporter activity, urate biosynthetic process |
Yn cynnwys | nitrogen, ocsigen, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfansoddyn organig ydy asid wrig neu asid iwrig (Saesneg: uric asid) wedi ei wneud allan o garbon, nitrogen, ocsigen a hydrogen a chanddo isfformiwla o: C5H4N4O3.
Bioleg
[golygu | golygu cod]Mewn bodau dynol a theulu'r epaod, asid iwric ydy diwedd y broses o ocsideiddio (neu dorri i lawr) y piwrin y metaboledd, gan wedyn ei ysgarthu yn yr wrin (neu biso). Gwelir ar unwaith fod cysylltiad rhwng y ddau air: wrin a wrig. Yn y rhan fwyaf o anifeiliaid, fodd bynnag, mae'r ensym wricas (uricase) yn ocsideiddio'r asid wrig ymhellach fyth gan ei droi'n allantoin.[1]
Asid wrig uchel
[golygu | golygu cod]Gowt
[golygu | golygu cod]Math o wynegon (neu arthritis) ydy gowt sy'n cael ei achosi gan ormod o asid wrig.
Syndrom Lesch-Nyhan
[golygu | golygu cod]Credir fod yr afiechyd prin hwn yn etifeddol, ond mae'n ymwneud hefyd gyda gormod o asid wrig yn y corff.
Afiechydon cardiofasgiwlar
[golygu | golygu cod]er fod yr asid hwn yn gweithredu fel gwrthocsidant, mae gormodedd ohono'n cael ei gysylltu gyda phroblemau'n ymwneud â'r galon.
Clefyd y siwgwr
[golygu | golygu cod]Gwyddys am y cysylltiad rhwng gormodedd o asid wrin a chlefyd y siwgwr ers cychwyn yr 20ed ganrif.
Syndrom metabolaidd
[golygu | golygu cod]Cysylltiad arall.
Asid wrig yn creu cerrig
[golygu | golygu cod]Pan nad yw'n hydoddi, gall yr asid hwn grisialu gan greu cerrig.
Asid wrig isel
[golygu | golygu cod]Multiple sclerosis
[golygu | golygu cod]Mae ychwanegu asid wrin (drwy dabledi inosine) yn gymorth i'r claf.