Cadell ap Rhodri
Gwedd
Cadell ap Rhodri | |
---|---|
Ganwyd | 854 |
Bu farw | 909 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Seisyllwg |
Tad | Rhodri Mawr |
Mam | Angharad ferch Meurig |
Plant | Hywel Dda, Clydog ap Cadell |
Llinach | Llinach Dinefwr |
Roedd Cadell ap Rhodri (bu farw 909) yn frenin Seisyllwg yn ne-orllewin Cymru.
Roedd Cadell yn fab i Rhodri Mawr. Ar farwolaeth ei dad yn 878 etifeddodd Seisyllwg, ac yn 904/905 cipiodd Deyrnas Dyfed a rhoddodd hi i'w fab, Hywel Dda, i'w rheoli. Pan fu farw Cadell yn 909, unodd Hywel y ddwy deyrnas i greu teyrnas Deheubarth.