Wesley Snipes
Wesley Snipes | |
---|---|
Ganwyd | Wesley Trent Snipes 31 Gorffennaf 1962 Orlando |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor, karateka, athletwr taekwondo, cynhyrchydd ffilm, canwr, actor llwyfan |
Priod | Nakyung Park |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Volpi Cup for Best Actor |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Mae Wesley Trent Snipes (ganed 31 Gorffennaf 1962) yn actor, cynhyrchydd ac yn grefftiwr ymladd o'r Unol Daleithiau. Mae ef wedi serennu mewn ffilmiau antur a chyffro, ond mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Blade yn y tair ffilm Blade. Ym 1991, sefydlodd gwmni cynhyrchu o'r enw Amen Ra Films ac is-gwmni, Black Dot Media, er mwyn datblygu prosiectau ffilm a theledu. Mae Snipes wedi bod yn hyfforddi mewn crefft ymladd ers pan oedd yn ddeuddeg mlwydd oed, gan gyrraedd safle pumed dan gwregys ddu yn karate Shotokan.
Yn 2008, cafwyd Snipes yn euog o dair trosedd o beidio dychwelyd anfonebau treth incwm ac ar y 24ain o Ebrill, fe'i ddedfrydwyd i dair blynedd o garchar.[1] Ar yr 22ain o Fai, penderfynodd y llys y gallai Snipes barhau i fod yn rhydd tra bod ei apel yn cael ei ystyried.[2].
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- WesleySnipes.com - Gwefan cefnogwyr Wesley Snipes
- The Snipes Trial - gwefan gan y sylwebydd J.J. MacNab ar achos llys treth incwm Wesley Snipes Archifwyd 2009-05-14 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Snipes sentenced to three years Newyddion y BBC. Adalwyd 17-04-2009
- ↑ "Judge allows Wesley Snipes to remain free on bail pending 3 tax convictions ", Welt Online, Adalwyd 17-04-2009