Bad achub
Enghraifft o'r canlynol | math o gwch |
---|---|
Math | sea rescue vessel, rescue vehicle, cwch |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cwch wedi'i gynllunio'n arbennig i achub bywydau pobl mewn trafferth ar y môr yw bad achub. Mae badau achub yng ngwledydd Prydain yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yr RNLI. Maent yn cael eu cadw mewn gorsafoedd ar yr arfordir yn barod i'w lawnsio'n gyflym er mwyn achub unigolion neu lestri mewn trafferth.
Hwyliodd y cwch cyntaf i gael ei adeiladu fel "bad achub" ar Afon Tyne yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ar 29 Ionawr, 1790. Ond doedd o ddim byd tebyg i'r badau achub a geir heddiw. Yn y 19eg ganrif hawliodd William Wouldhave a Lionel Lukin eu bod wedi dyfeisio'r bad achub cyntaf. Enghraifft gynnar o fad achub yw Bad achub Landguard, a gynllunwyd yn 1821 gan Richard Hall Gower. Un o'r badau achub hynaf yng Nghymru yw Bad achub Moelfre.
Ceir badau achub mewn sawl gwlad erbyn heddiw. Yn yr Unol Daleithiau mae achub o'r môr yn un o ddyletswyddau'r Gwasanaeth Gwylwyr Glannau.