Chwyldro'r Aifft (2011)
Enghraifft o'r canlynol | protest |
---|---|
Lladdwyd | 1,146 |
Rhan o | Y Gwanwyn Arabaidd |
Dechreuwyd | 25 Ionawr 2011 |
Daeth i ben | 11 Chwefror 2011 |
Lleoliad | Yr Aifft |
Gwladwriaeth | Yr Aifft |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Protestiadau ar strydoedd Cairo a dinasoedd eraill yn yr Aifft ydy Chwyldro'r Aifft, 2011 (neu'r Chwyldro Lotws), a'r mwyaf a welwyd ers "Terfysgoedd y Bara", 1977. Yr ysbrydoliaeth i'r protestiadau hyn, mae'n debyg, oedd y gwrthryfel a gafwyd yn Tiwnisia yn Rhagfyr 2010.[1]
Cychwynodd yr anhrefn ar 25 Ionawr 2011 pan drefnodd "Mudiad Ieuenctid y 6ed o Ebrill" brotest yn erbyn Arlywydd Mubarak.[2] Dewisiwyd y dyddiad (Dydd Santes Dwynwen, yng Nghymru) gan mai dyma Ddiwrnod Cenedlaethol yr Heddlu yn yr Aifft. Ymosodwyd ar orsafoedd yr heddlu ac o fewn dyddiau diflannodd yr heddlu drwy'r wlad gyfan, heddlu a fu gynt mor bwerus a threisgar. Canolbwynt y protestiadau oedd Sgwâr Tahrir, Cairo.
Cairo
[golygu | golygu cod]Ar 2 Chwefror ymgasglodd rai miloedd o sifiliaid pro-Mubarak gerllaw Sgwâr Tahrir, ac ymosodwyd ar geffylau ac ar gamelod ar y protestwyr, a hynny gyda chyllyll a chleddyfau. Roedd y rhan fwyaf o'r rheiny a ddaliwyd o'r garfan pro-Mubarak yn gyn-aelodau o'r heddlu. Cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban-ki Moon, yr Arlywydd Obama a David Cameron yn erbyn y trais.
Ar 3 Chwefror cyhoeddodd y Llywydd Mubarak mai estronwyr oedd y protestwyr yn Sgwâr Tahrir, ac nad oedd am ymddiswyddo o'i waith am o leiaf 200 diwrnod.
Rhannau eraill o'r Aifft
[golygu | golygu cod]Cafwyd protestio ledled y wlad. Hyd at 1 Chwefror credir fod 22 wedi marw yn Alexandria, 31 yn Suez a 44 yn y brifddinas.
Ymddiswyddiad yr Arlywydd Mubarak
[golygu | golygu cod]Ar 18ed diwrnod y protestio, cyhoeddwyd ymddiswyddiad yr Arlywydd a throsglwyddwyd grym y wlad i'r Llu Arfog.
Llyfrau am y chwyldro
[golygu | golygu cod]- Llyfr y chwyldro Aifft, Ac sydd wedi ei gyfieithu i'r Saesneg a Ffrangeg, Awdur Gwleidyddol [[Ahmed Ghanem]. [3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Erthygl 'Inspired by Tunisia, Egypt's protests appear unprecedented' a gyhoeddwyd gan 'The Christian Science Monitor' ar 25 Ionawr 2011. (Saesneg)
- ↑ Erthygl 'Violent Clashes Mark Protests Against Mubarak’s Rule' yn y New York Times, 25 Ionawr 2011. (Saesneg)
- ↑ Ffeilio Rhif Llyfr 11513 - 2012 Aifft Cyffredinol Llyfr