Dorset
Math | siroedd seremonïol Lloegr |
---|---|
Ardal weinyddol | De-orllewin Lloegr, Lloegr |
Prifddinas | Dorchester |
Poblogaeth | 776,780 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 2,813.998 km² |
Yn ffinio gyda | Gwlad yr Haf, Dyfnaint, Wiltshire, Hampshire |
Cyfesurynnau | 50.8333°N 2.3333°W |
Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dorset. Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan Môr Udd rhwng siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf i'r gorllewin, Wiltshire i'r gogledd a Hampshire i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw Dorchester. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y Dorset Downs yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw Afon Frome ac Afon Stour. Sir amaethyddol yw hi'n draddodiadol ond mae twristiaeth yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel Bournemouth a Weymouth. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer anferth Maiden Castle, ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol Thomas Hardy. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Wessex.
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ardaloedd awdurdod lleol
[golygu | golygu cod]Rhennir y sir yn ddau awdurdod unedol:
- Bournemouth, Christchurch a Poole, sy'n llywodraethu'r prif gytref ar hyd rhan ddwyreiniol yr arfordir sy'n cynnwys y tair tref yn yr enw
- Dorset, sy'n gwasanaethu gweddill y sir, sy'n fwy gwledig
Daeth y ddau awdurdod i fodolaeth ar 1 Ebrill 2019 pan gyfunwyd wyth awdurdod llai:
- Crëwyd Bournemouth, Christchurch a Poole trwy cyfuno y ddau awdurdod unedol Bwrdeistref Bournemouth a Bwrdeistref Poole â'r ardal an-fetropolitan Christchurch.
- Crëwyd Cyngor Dorset trwy gyfuno y pum ardal an-fetropolitan:
- Dwyrain Dorset
- Gogledd Dorset
- Gorllewin Dorset
- Purbeck
- Weymouth a Portland
Etholaethau seneddol
[golygu | golygu cod]Rhennir y sir yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan:
- Canol Dorset a Gogledd Poole
- Christchurch
- De Dorset
- Dwyrain Bournemouth
- Gogledd Dorset
- Gorllewin Bournemouth
- Gorllewin Dorset
- Poole
Trefi
Beaminster ·
Blandford Forum ·
Bournemouth ·
Bridport ·
Chickerell ·
Christchurch ·
Dorchester ·
Ferndown ·
Gillingham ·
Highcliffe ·
Lyme Regis ·
Poole ·
Portland ·
Shaftesbury ·
Sherborne ·
Stalbridge ·
Sturminster Newton ·
Swanage ·
Verwood ·
Wareham ·
Weymouth ·
Wimborne Minster