Neidio i'r cynnwys

John Ruskin

Oddi ar Wicipedia
John Ruskin
FfugenwKata Phusin Edit this on Wikidata
Ganwyd8 Chwefror 1819 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1900 Edit this on Wikidata
Coniston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, beirniad celf, hanesydd celf, athronydd, arlunydd, cymdeithasegydd, academydd, bardd, beirniad llenyddol, pensaer, newyddiadurwr, esthetegydd, daguerreotypist Edit this on Wikidata
Swyddmaster Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amModern Painters, The Seven Lamps of Architecture, The Stones of Venice, Unto This Last, Fors Clavigera Edit this on Wikidata
MudiadBrawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid, rhyddfeddyliaeth Edit this on Wikidata
TadJohn James Ruskin Edit this on Wikidata
MamMargaret Cock Ruskin Edit this on Wikidata
PriodEffie Gray Edit this on Wikidata
Gwobr/auNewdigate Prize Edit this on Wikidata
llofnod
Uchod: Ysgythriad plat-dur o Ruskin fel dyn ifanc, tua 1845.
Canol: Ruskin yng nghanol oed, yn Athro Celf Slade yn Rhydychen (1869–1879).
Gwaelod: Ruskin yn ei henaint ym 1894, gan y ffotograffydd Frederick Hollyer.
Gweler hefyd: John Ruskin (paentiad).

Beirniad celf a meddyliwr cymdeithasol o Sais oedd John Ruskin (8 Chwefror 181920 Ionawr 1900), a gaiff ei gofio hefyd fel bardd ac arlunydd. Bu ei draethodau ar gelf a pensaerniaeth yn ddylanwadol iawn yn yr Oesoedd Fictoraidd ac Edwardaidd.

Daeth Ruskin yn adnabyddadwy yn gyffredinol am y tro cyntaf am ei gefnogaeth o waith yr arlunydd J. M. W. Turner a'i amddiffyniad o naturoliaeth mewn celf. Ar ôl hynny rhoddodd bwysau ei ddylanwad tu ôl i'r symudiad Cyn-Raffaëlaidd. Trodd ei lên diweddarach tuag at archwiliadau o faterion cymhleth a phersonol diwylliant, cymdeithas a moesoldeb, a bu'n ddylanwadol yn natblygiad Sosialaeth Cristnogol.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ruskin yn Llundain a magwyd yn Ne Llundain, yn unig blentyn i mewnforiwr gwin a gyd-sefydlodd y cwmni Allied Domecq. Addysgwyd gartref ac aeth ymlaen i fynychu Coleg y Brenin, Llundain a Choleg Crist, Rhydychen. Yn Rhydychen, rhestrodd fel "bonheddwr-gwrêng", dosbarth o fyfyrwyr na ddisgwyliwyd i ddilyn cwrs cyflawn o astudio. Roedd ei astudiaethau'n grwydraidd, a bu'n absennol yn aml. Ond, fe wnaeth argraff ar ysgolheigion Coleg Crist, Rhydychen wedi iddo ennill y Wobr Newdigate am farddoniaeth, a oedd ei ddiddordeb cynharaf. Fel canlyniad, ac er iddo gael cyfnod hir o salwch difrifol, rhoddodd Rhydychen radd pedwerydd dosbarth gydag anrhydedd iddo.

Cyhoeddiadau cyntaf

[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd gwaith Ruskin wedi ei gyhoeddi am y tro cyntaf ym 1834, pan ddechreuodd ysgrifennu erthyglau'n 15 oed, ar gyfer cylchgrawn Llundain, y Magazine of Natural History. Ym 1836–1837, ysgrifennodd The Poetry of Architecture, a gyhoeddwyd fel cyfres yn yr Architectural Magazine, dan yr enw ysgrifennu "Kata Phusin" (Groeg am "yn ôl Natur"). Roedd hwn yn astudiaeth o fythynod, filâu ac anheddau eraill a ganolodd oamgylch y ddadl Wordsworthiaidd y dylai adeiladau fod mewn cydymdeimladol â'r amgyclhedd lleol, a dylent ddefnyddio deunyddiau lleol. Yn fuan wedyn, ym 1839, cyhoeddodd ei "Remarks on the present state of meteorological science" yn y Transactions of the Meteorological Society (tud. 56–59).

Arlunwyr cyfoes (1843)

[golygu | golygu cod]

Aeth Rukin ymlaen i gyhoeddi cyfrol gyntaf o'i brif weithiau, Modern Painters, ym 1843, gyda'r hunaniaeth anhysbys "An Oxford Graduate". Dadleuodd y gwaith hwn fod arlunwyr tirwedd cyfoes, yn arbennig J. M. W. Turner, yn uwchraddol i'r arlunwyr a gyfeirwyd atynt fel yr "Hen Feistri" y cyfnod ôl-Ddadeni. Roedd yn honiad yn ddadleuol iaen, yn enwedig gan y bu gweithiau rhannol abstract diweddaraf Turner yn cael eu disgrifio gan rhai feirniaid fel dwbiadau di-ystyr. Cafodd y raddfa y drodd Ruskin y teimlad gwrth-Turner o'i chwmpas ei or-bwysleisio yn y gorffennol, gan y bu Turner yn ffigwr clodfawr o bwys yn y byd celf Fictorianaidd, ac yn aelod blaengar o'r Academi Frenhinol. Roedd beirniadaeth hallt Ruskin o Hen Feistri megis Gaspard Dughet (Gaspar Poussin), Claude Lorrain, a Salvator Rosa, yn llawer mwy dadleuol, gan gysidro'r parch dirfawr a'u hystyrwyd gyda ar y pryd. Canolodd yr ymosodiad hwn ar y Hen Feistri ar beth alwodd Ruskin yn eu diffyg sylw i'r gwir naturiol. Yn hytach na 'mynd at natur', fel y gwnai Turner, rodd yr Hen Feistri yn 'cyfansoddi' neu dyfeisio eu tirweddau yn eu stiwdios. Credi Ruskin fod gwaith Turner a James Duffield Harding (tiwtor celf Ruskin) yn arddangos dealltwriaeth llawer mwy dwys o natur, gal arsylwi ar 'wirioneddau' dŵr, yr awyr, cymylau, cerrig a llysdyfiant.

Paentiad John Ruskin gan John Everett Millais yn Glenfinlas, Yr Alban, (1853–1854).[1]

Cysidrodd Ruskin fod rhai meistri y Dadeni, yn arbennig Titian a Dürer, wedi arddangos ymroddiad tebyg i natur, ond ymosododd ar Michelangelo hydynoed, fel dylanwad llygredig ar gelf. Mae ail hanner Modern Painters I yn cynnwys arsylwadau manwl Ruskin o'r union ffordd mae cymylau'n symud, sut mae moroedd yn ymddangos ar wahanol adega'ur dydd, neu sut mae coed yn tyfu, gan ddilyn gyda esiamplau o wallau neu wirioneddau mewn gwaith amryw o arlunwyr.

Roedd Ruskin eisoes wedi cyfarfod a do yn gyfeillgar â Turner, a daeth yn un ysgutorion o'i ewyllys yn ddiweddarach. Credai nifer y dinistriodd Ruskin nifer helaeth o frasluniau Turner fel un o'r ysgutorion ym 1858, cyn iw pynciau 'pornograffig' gael eu canfod; ond mae canfyddiadau diweddar yn gwneud y syniad hwn yn amheus iawn.

Dilynwyd Modern Painters I gan ail gyfrol, a ddatblygodd syniadau Ruskin ynglŷn â symboliaeth mewn celf. Trodd tuag at bensaerniaeth, gan ysgrifennu The Seven Lamps of Architecture a The Stones of Venice, a ddadleuodd na ellir gwahanu pensaerniaeth a moesoldeg, a fod yr arddull "Gothig Addurniadol" yn un o'r ffurfiau mwyaf uwchraddol o bensaerniaeth a oedd wedi eu cyflawni hyd hynnu.[2]

Erbyn y cyfnod hwn, roedd Ruskin yn ysgrifennu dan ei enw ei hun ac roedd wedi dod yn un o ddamcaniaethwyr diwylliannol enwocaf y cyfnod.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Effie Gray, a oedd yn llawer iau nag ef. Ni chymerwyd y briodas erioed. Dirymwyd y briodas ym 1854. Priododd Effie yr arlunydd John Everett Millais, ffrind Ruskin. Ni phriododd Ruskin eto.

Detholiad o'i lyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Poems (1835-1846)
  • The Poetry of Architecture: Cottage, Villa, etc., to Which Is Added Suggestions on Works of Art (1837-1838)
  • The King of the Golden River, neu The Black Brothers (1841)
  • Modern Painters
    • Part I. Of General Principles (1843-1844)
    • Part II. Of Truth (1843-1846)
    • Part III. Of Ideas of Beauty (1846)
    • Part IV. Of Many Things (1856)
    • Part V. Mountain Beauty (1856)
    • Part VI. Of Leaf Beauty (1860)
    • Part VII. Of Cloud Beauty (1860)
    • Part VIII. Of Ideas of Relation: – I. Of Invention Formal (1860)
    • Part IX. Of Ideas of Relation: – II. Of Invention Spiritual (1860)
  • Adolygiad o Sketches of the History of Christian Art yr Arglwydd Lindsay (1847)
  • The Seven Lamps of Architecture (1849)
  • Llythyrau i'r Times yn amddiffyn Hunt a Millais (1851)
  • Pre-Raphaelitism (1851)
  • The Stones of Venice
    • Volume I. The Foundations (1851)
    • Volume II. The Sea–Stories (1853)
    • Volume III. The Fall (1853)
  • Darlithau ar Bensaerniaeth a Pheintio, a adroddwyd yng Nghaeredin, Tachwedd 1853
  • Architecture and Painting (1854)
  • The True and the Beautiful in Nature, Art, Morals and Religion (1858)
  • Llythyrau i'r Times yn amddiffyn Paentio Cyn-Raffaëlaidd (1854)
  • Academy Notes: Annual Reviews of the June Royal Academy Exhibitions (1855-1859 / 1875)
  • The Harbours of England (1856)
  • "A Joy Forever" and Its Price in the Market, neu The Political Economy of Art (1857 / 1880)
  • The Elements of Drawing, yn Three Letters to Beginners (1857)
  • The Two Paths: Being Lectures on Art, and Its Application to Decoration and Manufacture, darlith a roddwyd ym 1858–189
  • The Elements of Perspective, Arranged for the Use of Schools and Intended to be Read in Connection with the First Three Books of Euclid (1859)
  • Unto This Last: Four Essays on the First Principles of Political Economy (1860)
  • Munera Pulveris: Essays on Political Economy (1862-1863 / 1872)
  • Cestus of Aglaia (1864)
  • Sesame and Lilies (1864-1865) darlithau a roddwyd yn Rusholme, Manceinion
  • The Ethics of the Dust: Ten Lectures to Little Housewives on the Elements of Chrystallisation (1866)
  • The Crown of Wild Olive: Three Lectures on Work, Traffic and War (1866)
  • Time and Tide by Weare and Tyne: Twenty-five Letters to a Working Man of Sunderland on the Laws of Work (1867)
  • The Flamboyant Architecture of the Somme (1869)
  • The Queen of the Air: Being a Study of the Greek Myths of Cloud and Storm (1869)
  • Verona and its Rivers (1870)
  • Lectures on Art, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term Hilary, 1870
  • Aratra Pentelici: Six Lectures on the Elements of Sculpture, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term Michaelmas, 1870
  • Lectures on Sculpture, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen, 1870–1871
  • Fors Clavigera: Letters to the Workmen and Labourers of Great Britain
    • Volume I. (1871)
    • Volume II.
    • Volume III.
    • Volume IV. (1880)
  • The Eagle's Nest: Ten Lectures on the Relation of Natural Science to Art, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term y Grawys, 1872
  • Love's Meinie (1873)
  • Ariadne Florentia: Six Lectures on Wood and Metal Engraving, with Appendix, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term Michaelmas, 1872
  • Val d’Arno: Ten Lectures on the Tuscan Art antecedent to the Florentine Year of Victories, a roddwyd ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod Term Michaelmas, 1872
  • Mornings in Florence (1877)
  • Pearls for Young Ladies (1878)
  • Review of Paintings by James McNeill Whistler (1878)
  • Fiction, Fair and Foul (1880)
  • Deucalion: Collected Studies of the Lapse of Waves and Life of Stones (1883)
  • The Art of England: Lectures Given at the University of Oxford (1883-1884)
  • St Mark's Rest (1884)
  • The Storm-Cloud of the Nineteenth Century (1884)
  • The Pleasures of England: Lectures Given at the University of Oxford (1884-1885)
  • Bible of Amiens (1885)
  • Proserpina: Studies of Wayside Flowers while the Air was Yet Pure among the Alps and in the Scotland and England Which My Father Knew (1886)
  • Præterita: Outlines of Scenes and Thoughts Perhaps Worthy of Memory in My Past Life (1885-1889)
  • Dilecta
  • Giotto and His Works in Padua: Being an Explanatory Notice of the Series of Woodcuts Executed for the Arundel Society after the Frescoes in the Arena Chapel
  • Hortus Inclusus
  • In Montibus Sanctis
  • Cœli Enarrant
  • Notes on Samuel Prout and William Hunt
  • Guide to the Principal Pictures of the Venice Academy of Fine Arts
  • Catalogue of the Drawings and Sketches of J. M. W. Turner
  • An Inquiry into Some of the Conditions at Present Affecting "The Study of Architecture" in our Schools

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
John Ruskin

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Ebrill 1996) Ruskin and Millais at Glenfinlas, Cyfrol 138, Rhifyn 1117. The Burlington Magazine, tud. 228–234. URL
  2.  Jonathan Smith (Gorffennaf 1994). Architecture and Induction: Whewell and Ruskin on Gothic. Darlith yn "Science and British Culture in the 1830s," Coleg y Drindod, Caergrawnt.