Stafa
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Staffa)
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Mewnol Heledd |
Lleoliad | Argyll a Bute |
Sir | Argyll a Bute |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 33 ha |
Uwch y môr | 42 metr |
Gerllaw | Sea of the Hebrides |
Cyfesurynnau | 56.4361°N 6.3403°W |
Hyd | 0.6 cilometr |
Rheolir gan | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban |
Perchnogaeth | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban |
Ynys sy'n un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Stafa (Saesneg: Staffa). Daw'r enw o'r Hen Lychlynneg staf, "colofn". Ynys fechan ydyw, 200 medr o led a 600 medr o hyd, ac nid oes poblogaeth barhaol. Mae tua 10 km i'r gorllewin o ynys Muile.
Mae'n gyrchfan boblogaith i dwristiaid yn yr haf oherwydd ei chlogwyni a'i hogofeydd. Yr enwocaf o'r rhain yw Ogof Fingal, yn ne yr ynys, sy'n 75 medr o hyd, 14 medr o led a 22 medr o uchder. Ymwelodd y cyfansoddwr Felix Mendelssohn a'r ynys yn 1829, a chafodd ei ysbrydoli i gyfansoddi ei ddarn Ogof Fingal.
Gofalir yr ynys gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban ers 1986, ac mae’n Warchodfa Natur Genedlaethol ers 2001.[1]