Wicipedia:Ar y dydd hwn/Mehefin
1 Mehefin: Diwrnod yr Azores (Portiwgal)
- 1257 – buddugoliaeth Llywelyn ap Gruffudd ym Mrwydr Coed Llathen, ger Llandeilo
- 1533 – coroni Ann Boleyn fel brenhines Harri VIII
- 1831 – Gwrthryfel Merthyr yn dechrau trwy ddinistrio'r Cwrt Dyfeision
- 1920 – cysegrwyd A. G. Edwards yn archesgob cyntaf yr Eglwys yng Nghymru
- 1995 – Tyddewi yn ad-ennill ei statws hanesyddol fel dinas, a gollwyd ym 1888
2 Mehefin: Gŵyl mabsant Bodfan
- 1257 – cafodd Byddin Cymru, a arweiniwyd gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd (m. 1282), ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson: Brwydrau Coed Llathen a Chymerau
- 1421 – priododd Harri V Catrin o Valois (mam Owain Tudur) yn Eglwys Gadeiriol Troyes
- 1900 – ganwyd y cyfansoddwr Cymreig David Wynne, awdur cantata am Owain ab Urien
- 1910 – Charles Rolls, o Sir Fynwy, yn croesi'r Môr Udd ddwywaith mewn un daith awyren, ddi-dor am y tro cyntaf
- 1982 – ymwelodd y Pab Ioan Pawl II â Chymru
- 2008 – ymosodwyd ar lysgenhadaeth Denmarc yn Islamabad, Pacistan.
- Diwrnod y Beic (cyhoeddwyd yn 2018 gan y Cenhedloedd Unedig)
- 1659 – bu farw Morgan Llwyd, cyfrinydd ac awdur Llyfr y Tri Aderyn
- 1770 – ganwyd Manuel Belgrano, un o arwyr cenedlaethol yr Ariannin
- 1831 – arestiwyd Dic Penderyn a'i gyfaill Lewis Lewis ar gam yng Ngwrthryfel Merthyr
- 1835 – bu farw William Owen Pughe, geiriadurwr a golygydd
- 1924 – bu farw Franz Kafka, llenor yn yr iaith Almaeneg
- 1989 – gorchmynodd llywodraeth Tsieina i'w milwyr symud protestwyr o Sgwâr Tiananmen
4 Mehefin: Gŵyl Sant Pedrog, un o nawddseintiau Cernyw
- 1798 – bu farw Edward FitzGerald, cenedlaetholwr Gwyddelig, yng ngharchar Newgate, Dulyn
- 1911 – ganwyd yr athronydd ac awdur J. R. Jones ym Mhwllheli, Gwynedd
- 1913 – rhedodd y swffragét Emily Davison o flaen ceffyl y brenin yn ystod ras y Derby yn Epsom; bu farw ychydig yn ddiweddarach
- 1941 – bu farw Wiliam II, ymerawdwr yr Almaen
- 1958 – ganed Gwyndaf Evans, gyrrwr rali Gymreig a gŵr busnes o Ddinas Mawddwy
- 1960 – bu farw Margaret Lindsay Williams, arlunydd
5 Mehefin: Gŵyl mabsant Tudno a Diwrnod yr Amgylchedd
- 1868 – ganwyd James Connolly, un o brif arweinwyr Gwrthryfel y Pasg, Iwerddon, 1916
- 1953 – bu farw Moelona, awdur y nofel Teulu Bach Nantoer
- 1957 – estynwyd Rheilffordd Ffestiniog i Benrhyndeudraeth
- 1920 – bu farw'r nofelydd Rhoda Broughton o Ddinbych
- 1996 – agorwyd yr ail bont dros Afon Hafren
- 2022 – Tîm pêl-droed Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, pan sgoriodd Gareth Bale yn erbyn Wcráin.
6 Mehefin: Gŵyl genedlaethol Sweden
- 1237 – bu farw John de Scotia, Iarll Huntingdon, mab-yng-nghyfraith Llywelyn Fawr
- 1599 – ganwyd yr arlunydd Sbaenaidd Diego Velázquez
- 1903 – ganwyd yr arlunydd Ceri Richards yn Abertawe
- 1930 – ganwyd y model Cymreig Bronwen Astor
- 1968 – bu farw'r gwleidydd o Americanwr Robert F. Kennedy ar ôl iddo gael ei saethu y diwrnod cynt
7 Mehefin Gŵyl mabsant Meiriadog
- 1337 – bu farw'r dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, yn Sempringham, Lloegr
- 1868 – ganwyd y pensaer a’r dylunydd Charles Rennie Mackintosh yn Glasgow, yr Alban
- 1905 – terfynodd Norwy ei hundeb â Sweden
- 1905 – ganwyd Donald Watts Davies, dyfeisiwr y dull o drosglwyddo data bob yn baced (packet switching)
- 1940 – ganwyd y canwr Tom Jones ym Mhontypridd
- 2010 – bu farw Stuart Cable, drymiwr gwreiddiol y band Stereophonics
- 632 – Bu farw Muhammad, proffwyd Islam, ym Medina, sydd heddiw yn Sawdi Arabia
- 1867 – Ganwyd y pensaer Frank Lloyd Wright yn Wisconsin, UDA, i deulu a hanai o Rydowen ger Llandysul
- 1878 – Ganwyd Evan Roberts, prif arweinydd Diwygiad 1904–1905, yng Nghasllwchwr
- 1889 – Bu farw Gerard Manley Hopkins, bardd ag ysgrifennai yn yr iaith Saesneg ond a oedd o dras Cymreig
- 1951 – Ganwyd y gantores Bonnie Tyler yn Sgiwen ger Castell-nedd
9 Mehefin: Gŵyl y sant Gwyddelig Colum Cille a Santes Madryn (Trawsfynydd)
- 53 – priodas Nero, ymerawdwr Rhufain, a Claudia Octavia. Ar y dydd hwn hefyd y bu farw Nero, yn y flwyddyn 68
- 1870 – bu farw'r nofelydd Charles Dickens
- 1898 – gosodwyd Hong Cong ar brydles i Brydain gan Tseina
- 2006 – agorwyd Llwybr Arfordirol Ynys Môn gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan
10 Mehefin; Brwydr Mynydd Camstwn pan laddwyd Elis ap Richard ap Howell ap Morgan Llwyd, Cludwr Baner Glyn Dŵr
- 1909 – y defnyddiwyd y côd-argyfwng SOS am y tro cyntaf, a hynny gan y deithlong "Slavonia"
- 1926 – bu farw Antoni Gaudí, pensaer y Sagrada Família yn Barcelona
- 1970 – ganwyd Chris Coleman, rheolwr a chyn bêl-droediwr o Gymru
- 1999 – bu farw'r actor Meredith Edwards a serennodd yn A Run for Your Money (1949) a Tiger Bay (1959)
- 2004 – gosodwyd record Tandem 5 km merched gan Katie Curtis ac Alex Greenfield yn Velodrome Casnewydd
- 2010 – dangoswyd y ffilm Patagonia am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Seattle.
11 Mehefin: Gŵyl Sant Barnabas (Cristnogaeth)
- 1509 – priodas Harri VIII, brenin Lloegr â Chatrin o Aragón
- 1847 – ganwyd yr etholfreintwraig Seisnig Millicent Fawcett
- 1864 – ganwyd y cyfansoddwr Richard Strauss ym München, yr Almaen
- 1947 – diwrnod cyntaf Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
- 1955 – bu farw'r newyddiadurwr a nofelydd nofelau antur a ditectif Edward Morgan Humphreys
- 1956 – bu farw'r arlunydd Eingl-Gymreig, Syr Frank Brangwyn
12 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth y Philipinau (1898)
- 1282 – ganwyd y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf ac Elen
- 1942 – dechreuodd Anne Frank ysgrifennu ei dyddiadur, ar ei thrydydd pen-blwydd ar ddeg
- 1964 – dedfrydwyd Nelson Mandela i garchar am oes yn Ne Affrica
- 1984 – dynodwyd Cors Llanllugan yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
- 2009 – agorwyd Hafod Eryri ger copa'r Wyddfa
- 323 CC – bu farw Alecsander Fawr
- 1865 – ganwyd William Butler Yeats, bardd a dramodydd o Wyddel
- 1951 – Éamon de Valera (Éamonn de Bhailéara) yn cychwyn ar ei ail dymor fel Taoiseach, neu Brif Weinidog, Gweriniaeth Iwerddon
- 2004 – dechreuodd Scarlet FM ddarlledu; gorsaf radio ar gyfer tref Llanelli
- 1645 – ymladdwyd Brwydr Naseby, pan gafodd Oliver Cromwell fuddugoliaeth dros fyddin Siarl I
- 1726 – ganwyd Thomas Pennant, hynafiaethydd a naturiaethwr, ger Treffynnon, Sir y Fflint
- 1842 – ganwyd William Abraham (Mabon), AS a Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru
- 1950 – ganwyd Rowan Williams, Archesgob Cymru a Chaergaint, yn Abertawe
- 2017 – llosgwyd Tŵr Grenfell, bloc o fflatiau yn Kensington, Llundain
15 Mehefin: Gwyliau'r seintiau Cristnogol Awstin o Hippo a Trillo
- 1215 – gorfodwyd i John, brenin Lloegr, roi ei sêl ar y Magna Carta
- 1667 – trallwysodd y meddyg Jean-Baptiste Denys o Ffrainc waed oen i fachgen 15 oed. Hwn oedd y trallwysiad gwaed llwyddiannus cyntaf i berson ei dderbyn
- 1846 – Cytundeb Oregon yn sefydlu'r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada
- 1982 – diwedd Rhyfel y Malvinas, gyda 30 o Gymry wedi'u lladd
- 2004 – bu farw yr ysgolhaig, beirniad a golygydd, J. Gwyn Griffiths
16 Mehefin; Dydd Gŵyl y seintiau Curig ac Ishmael.
- 1487 – Harri VII, brenin Lloegr, yn ennill y Brwydr Maes Stoke, brwydr diwethaf y Rhyfeloedd y Rhosynnau
- 1282 – Ym Mrwydr Llandeilo Fawr, trechwyd byddin o Saeson gan wŷr y Deheubarth a oedd yn driw i Lywelyn ap Gruffudd
- 1976 – Ganwyd Cian Ciarán, aelod o'r Super Furry Animals
- 1902 – Ganwyd y bardd a'r dramodydd Cymraeg James Kitchener Davies, awdur y bryddest Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu
17 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth Gwlad yr Iâ (1944); gwylmabsant Neithon
- 1889 – bu farw'r diwydiannwr o Gymro John Hughes, a sefydlodd ddinas "Hughesovka" (Donetsk bellach) yn Wcráin
- 1898 – bu farw'r arlunydd Syr Edward Burne-Jones
- 1988 – dynodwyd Coed Cors y Gedol ger Dyffryn Ardudwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
- 1945 – ganwyd Ken Livingstone, gwleidydd a Maer cyntaf Llundain o 2000 hyd 2008
- 1965 – cyhoeddwyd yn Y Cymro fod cyfarwyddwr ffatri, Brewer Spinks, Tan-y-grisiau, wedi atal i'r gweithwyr siarad Cymraeg.
- 1815 – trechwyd Napoleon ym Mrwydr Waterloo gan fyddinoedd Prwsia a Phrydain
- 1858 – derbyniodd Charles Darwin bapur gwyddonol gan Alfred Russel Wallace a oedd yn cynnwys ei gasgliadau ynglŷn ag esblygiad; bu hyn yn ysgogiad i Darwin gyhoeddi ei ddamcaniaethau ei waith
- 1942 – ganwyd Syr Paul McCartney, canwr, cerddor a chyfansoddwr, yn Lerpwl
- 1971 – ganwyd Nigel Owens, dyfarnwr rygbi, ger Llanelli
- 1282 – bu farw Elinor de Montfort, gwraig Llywelyn ap Gruffudd
- 1566 – ganwyd Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) (†. 1625)
- 1719 – bu farw'r môr-leidr Cymreig Hywel Davies
- 1821 – coronwyd Siôr IV, brenin y Deyrnas Unedig
- 2014 – daeth Felipe VI, mab Juan Carlos I, yn frenin Sbaen
- 451 – ymladdwyd brwydr Chalons rhwng byddinoedd Attila a Flavius Aetius
- 1763 – ganwyd y cenedlaetholwr Gwyddelig Theobald Wolfe Tone
- 1764 – ganwyd Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi), gweinidog a llenor
- 1837 – esgynnodd y Dywysoges Victoria i orsedd y Deyrnas Unedig
- 1987 – daeth twrnamaint gyntaf Cwpan Rygbi'r Byd i ben, gyda Seland Newydd yn fuddugol
- 2003 – sefydlwyd Sefydliad Wikimedia yn St. Petersburg, Florida, UDA
- Diwrnod Cerddoriaeth y Byd
- 1377 – bu farw Edward III, brenin Lloegr
- 1652 – bu farw y pensaer Inigo Jones
- 1792 – Eisteddfod Bryn y Briallu, Llundain: ymddangosiad cyntaf Gorsedd y Beirdd
- 1840 – ganwyd John Rhŷs, un o'r ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunau Cymraeg Canol gorau ei ddydd, ym Mhonterwyd, Ceredigion
- 1877 – ganwyd y nofelydd Moelona yn Rhydlewis, Ceredigion; awdur Teulu Bach Nantoer.
- 1402 – ymladdwyd Brwydr Bryn Glas, pan gafwyd buddugoliaeth fawr i Owain Glyn Dŵr dros y Saeson
- 1265 – arwyddwyd Cytundeb Pipton rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Simon de Montfort
- 1283 – Dafydd ap Gruffudd yn cael ei gipio gan filwyr Edward I
- 1868 – bu farw Owain Meirion, 'baledwr heb waelodion', chwedl Mynyddog
- 1876 – ganwyd yr Arlunydd Gwen John yn Hwlffordd; cyfaill Auguste Rodin.
- 1932 – ganwyd Mary Wynne Warner, arbenigwr mewn topoleg niwlog (neu fuzzy) (m. 1998)
- 79 – Vespasian y pedwerydd ymerawdwr Rhufeinig i deyrnasu yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr
- 1756 – ganwyd y mathemategydd Thomas Jones, brodor o Aberriw, Maldwyn
- 1894 – Trychineb Glofa'r Albion, Cilfynydd; yr ail waethaf yng Nghymru. Lladdwyd 290
- 1914 – ganwyd W. Rhys Nicholas, awdur yr emyn Pantyfedwen
- 1961 Cytundeb yr Antarctig yn dod i rym
- 1965 – agoriad swyddogol Coleg Llandrillo Cymru.
- 1311 – priododd Philippa o Hanawt Edward III, brenin Lloegr, yn Efrog
- 1314 – Brwydr Bannockburn rhwng Lloegr a'r Alban; Robert I, brenin yr Alban, yn gorchfygu
- 1575 – priododd Wiliam I, Tywysog Orange, a Charlotte de Bourbon
- 1774 – ganwyd Azariah Shadrach (llysenw: "Bunyan Cymru"), awdur testunau crefyddol Cymreig (†. 1844)
- 1821 – ganwyd Guillermo Rawson, meddyg a gwleidydd (†. 1890)
- 1987 – ganwyd Lionel Messi, pêl-droediwr o'r Ariannin.
25 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth Mosambic (1975)
- 1595 – bu farw William Aubrey, Aelod Seneddol o Gymro ac un o syflaenwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen
- 1903 – ganwyd George Orwell, awdur y llyfr proffwydol 1984.
- 1906 – ganwyd yr actor Roger Livesey yn y Barri
- 1950 – dechreuodd Rhyfel Corea pan ymosododd lluoedd Gogledd Corea ar Dde Corea
- 1953 – cyhoeddwyd Blodau'r Ffair am y tro cyntaf; ffrwyth llafur Aneurin Jenkins Jones
- 2006 – bu farw'r actor a'r gwneuthurwr ffilmiau dogfen Kenneth Griffith.
26 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth Madagasgar (1960); Gŵyl Mabsant Twrog
- 1819 – Rhoddwyd patent ar gyfer beic am y tro cyntaf
- 1885 – Ganwyd y llenor a'r cenedlaetholwr D. J. Williams
- 1912 – Perfformiwyd Symffoni Rhif 9 gan Gustav Mahler am y tro cyntaf
- 1945 – Arwyddwyd cytundeb yn sefydlu'r Cenhedloedd Unedig yn San Francisco, UDA
- 1999 – Chwaraewyd y gêm rygbi gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd - rhwng Cymru a De Affrica.
27 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth Jibwti (1977)
- 1571 – sefydlwyd Coleg yr Iesu, Rhydychen
- 1810 – bu farw Richard Crawshay, perchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful
- 1906 – ganwyd Vernon Watkins, bardd yn yr iaith Saesneg ac arlunydd, ym Maesteg
- 1985 – ganwyd y chwaraewr rygbi James Hook ym Mhort Talbot.
28 Mehefin Dydd Gŵyl Austell (Llydaw a Chernyw)
- 1491 – ganwyd Harri VIII, brenin Lloegr
- 1712 – ganwyd yr athronydd o Ffrancwr Jean-Jacques Rousseau
- 1914 – dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf: llofruddiwyd Franz Ferdinand, Archddug Awstria, gan Gavrilo Princip o Serbia
- 1919 – arwyddwyd Cytundeb Versailles rhwng y Cynghreiriad a'r Almaen orchyfygiedig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf
- 1922 – danfonwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd cyntaf, dros y radio, gan Gwilym Davies
- 1960 – lladdwyd 45 o lowyr mewn tanchwa ym mhwll glo Chwe Chloch, Aber-bîg.
29 Mehefin: diwrnod annibyniaeth y Seychelles (1976) oddi wrth y DU
- 1199 – Gerallt Gymro yn cael ei ethol yn esgob
- 1865 – darganfuwyd aur ym Mwynfeydd aur Clogau ger Dolgellau
- 1958 – enillodd Brasil Gwpan y Byd Pêl-droed
- 1960 – ganwyd Helen Mary Jones, aelod o Blaid Cymru a chyn-aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
- 2003 – bu farw'r actores ffilm, Americanaidd Katharine Hepburn
- 2013 – gorseddwyd Christine James yn Archdderwydd Cymru yng Nghaerfyrddin, yn ystod Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
30 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (1960); Dydd Gŵyl Santes Eurgain
- 1646 – dienyddiwyd Philip Powell, mynach a merthyr Catholig, yn Tyburn ger Llundain
- 1709 – bu farw Edward Lhuyd, botanegydd, daearegwr, hynafiaethydd ac ieithegwr
- 1934 – bu farw Hugh Evans, cyhoeddwr, awdur a sefydlydd Gwasg y Brython
- 1934 – yn yr Almaen Natsïaidd, cychwynnodd Noson y Cyllyll Hirion, sef cyfres o ddienyddiadau i gael gwared ar elynion gwleidyddol Adolf Hitler
- 1937 – yng ngorsaf reilffordd Abertawe croesawodd y "Mudiad Cymorth i Sbaen" blant y ffoaduriaid cyntaf o Wlad y Basg i gyrraedd yng Nghymru.
|