Ffetisiaeth
Yn ôl llên gwerin, gwrthrych sydd â phwerau goruwchnaturiol, neu, yn benodol, gwrthrych gwneud sydd â phwerau dros bobl a phethau eraill ydyw ffetis (hefyd a elwir yn eilun). Mae'r gair yn dod o'r gair Ffrangeg fétiche, sy'n dod o'r gair Portiwgaleg feitiço, ac mae'r gair Portiwgaleg ei hun yn dod o'r gair Lladin facticius, sy'n golygu "artiffisial" a facere, "i wneud"). Yn y bôn, y priodoliad o werth ymfodol neu bwerau i wrthrych ydyw ffetisiaeth.
Hanes
golyguYmarfer
golyguYn ddamcaniaethol, y mae ffetisiaeth yn bresennol ymhob crefydd, ond o ran crefydd, y mae'n dod o gredau crefyddol traddodiadol Gorllewin Affrica, yn ogystal â Fwdŵ, sy'n dod o'r credau hynny.
Ystyrir gwaed yn ffetis neu gynhwysyn grymus o fewn ffetisiaeth a ffetisiau eu hunain. Yn ogystal â gwaed, y mae gwrthrychau a sylweddau eraill yn ffetisiau cyffredin mewn traddodiadau o ddiwylliannau byd-eang, megis esgyrn, ffwr, crafangau, plu, gemfeini a grisialau, dŵr o lefydd penodol, a mathau o blanhigion a phren penodol.
Defnyddiwyd ffetisiau yn gyffredin o fewn ymarferion a chrefyddau Brodorol Americanaidd.[1] Cynrychiolir y siaman gan yr arth, y darparwr ydyw'r byfflo, y rhyfelwr ydyw'r cwgr, a'r gwarcheidwad ydyw'r blaidd.[1]
Theorïau Ffetisiaeth yn y Gorllewin
golygu- Yn y 19g, addasodd Karl Marx y term i ddisgrifio ffetisiaeth nwyddau fel elfen bwysig o gyfalafiaeth. Y dyddiau hyn, y mae ffetisiaeth nwyddau a chyfalaf yn gysyniad canolog Marcsiaeth.
- Wedi hynny, addasodd Sigmund Freud y cysyniad i ddisgrifio math o paraffilia lle mai gwrthrych difywyd neu ran benodol o berson dan sylw ydyw gwrthrych yr anwyldeb; gweler ffetisiaeth rywiol.
Gweler hefyd
golygu- Eilunaddoliaeth
- Ffetis (gwahaniaethu)
- Animistiaeth
- Totemiaeth
- Tabŵ
- The Power of Myth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Animals: fact and folklore," New Mexico Magazine, Awst 2008, tudalennau 56-63, gweler Gwefan cylchgrawn New Mexico.
Dolenni allanol
golygu- Andrew Lang, Ffetisiaeth ac Ysbrydoliaeth Archifwyd 2013-02-02 yn y Peiriant Wayback, The Making of Religion, (Pennawd VIII), Longmans, Green, a C°, Llundain, Efrog Newydd, a Bombay, 1900, tudalennau 147–159.