Beata Szydło
Gwleidydd Pwylaidd a Phrif Weinidog Gwlad Pwyl ers 16 Tachwedd 2015 - 11 Rhagfyr 2017 yw Beata Maria Szydło (ganwyd 15 Ebrill 1963).
Beata Szydło | |
---|---|
Prif Weinidog Gwlad Pwyl | |
Yn ei swydd 16 Tachwedd 2015 – 11 Rhagfyr 2017 | |
Arlywydd | Andrzej Duda |
Dirprwy | Piotr Gliński Mateusz Morawiecki Jarosław Gowin |
Rhagflaenwyd gan | Ewa Kopacz |
Dilynwyd gan | Mateusz Morawiecki |
Manylion personol | |
Ganwyd | Beata Maria Kusińska 15 Ebrill 1963 Oświęcim, Gwlad Pwyl |
Plaid wleidyddol | Cyfraith a Chyfiawnder (Prawo i Sprawiedliwość) |
Priod | Edward Szydło |
Plant | 2 |
Alma mater | Jagiellonian University |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Ganwyd Beata Maria Kusinska yn Oświęcim, 50 kilometr (31 mi) i'r gorllewin o Kraków, yn ferch i löwr, a chafodd ei magu yn Brzeszcze gerllaw. Mynychodd Brifysgol Jagiełło yng Nghracof, ac yno y cyfarfu â'i gŵr Edward Szydło. Astudiodd am ddoethuriaeth o 1989 i 1995, a gweithiodd yn Ysgol Economeg Warsaw, Prifysgol Economeg Kraków, ac yng nghanolfannau diwylliannol Libiąż a Brzeszcze.[1][2]
Ym 1998, cafodd ei hethol yn faer Brzeszcze. Yn 2005, ymddiswyddodd yn faer ac ymunodd â'r blaid Cyfraith a Chyfiawnder (Prawo i Sprawiedliwość; PiS) a chafodd ei hethol i'r Sejm, a'i hailethol yn 2007 a 2011. Cafodd ei hethol yn is-lywydd y blaid yn 2010, ac yn 2015 rheolodd ymgyrch arlywyddol lwyddiannus Andrzej Duda. Cafodd ei dewis yn ymgeisydd PiS am brif weinidog ar gyfer etholiad 2015. Enillodd PiS fwyafrif o seddi'r Sejm, a daeth Szydło yn bennaeth ar lywodraeth unblaid gyntaf y wlad ers cwymp y drefn gomiwnyddol ym 1989.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Adam Easton (26 October 2015). "Beata Szydlo: Polish miner's daughter set to be PM". BBC Online. Cyrchwyd 29 Hydref 2015.
- ↑ Polish Press Agency (16 Tachwedd 2015). "Beata Szydło – premier" (yn Pwyleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-21. Cyrchwyd 2017-08-16.