Awdures Americanaidd oedd Jane Addams (6 Medi 1860 - 21 Mai 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, athronydd, cymdeithasegydd, a ffeminist. Ystyrir hi fel y person a grisialodd y cysyniad o 'waith cymdeithasol', a bod angen i lywodraeth ofalu am rai pobl o fewn cymdeithas. Sefydlodd "Hull House" yn Chicago, cartref i'r digartref, yr enwocaf, efallai yn yr UDA; ac yn 1920 sefydlodd yr ACLU (American Civil Liberties Union).[1][2][3][4][5]

Jane Addams
GanwydLaura Jane Addams Edit this on Wikidata
6 Medi 1860 Edit this on Wikidata
Cedarville Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mai 1935 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Rockford Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, athronydd, llenor, ymgyrchydd dros hawliau merched, hunangofiannydd, diwygiwr cymdeithasol, beirniad cymdeithasol, swffragét, ymgyrchydd heddwch, amddiffynnwr hawliau dynol, damcaniaethwr gwleidyddol, cymdeithasegydd Edit this on Wikidata
Mudiadheddychiaeth, sosialaeth, pleidlais i ferched, hawliau menywod Edit this on Wikidata
TadJohn H. Addams Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Chicago, Hall of Fame Lesbiaid a Hoywon Chicago, Hall of Fame Americanwyr Mawr Edit this on Wikidata
llofnod
Llun diddyddiad o Jane Addams yn ferch ifanc.

Yn 1931, hi oedd y fenyw Americanaidd gyntaf i ennill Gwobr Heddwch Nobel. Mae hi'n cael ei chydnabod fwyfwy fel athronydd pragmataidd, ac fel yr "athronydd benywaidd cyhoeddus cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau".[6]

Fe'i ganed yn Cedarville, Illinois a bu farw o ganser yn Hull House; fe'i claddwyd yn Illinois.[7][8][9][10][11][12]

Yn yr "Oes Flaengar" (yr hyn a elwir yn "Progressive Era"), pan nododd llywyddion fel Theodore Roosevelt a Woodrow Wilson eu bod yn ddiwygwyr a gweithredwyr cymdeithasol, Addams oedd un o'r diwygwyr mwyaf blaenllaw. Helpodd America i fynd i'r afael â materion a oedd yn peri pryder i famau, fel anghenion plant, iechyd cyhoeddus lleol, a heddwch y byd. Yn ei thraethawd 'Defnyddio Menywod mewn Llywodraeth y Ddinas', (Utilization of Women in City Government) nododd Addams y cysylltiad rhwng gweithrediadau llywodraeth y wlad a'r aelwyd, gan fynnu fod cysylltiad rhang glanweithdra, carffosiaeth dinesig, addysg plant ayb a rôl y ferch, yn draddodiadol, yn y cartref. Felly, roedd y rhain yn faterion y byddai gan fenywod fwy o wybodaeth amdanynt na dynion, felly roedd menywod angen y bleidlais i leisio'u barn yn y ffordd orau.[13]

Pe bai menywod yn gyfrifol am lanhau eu cymunedau, dywedodd, a'u gwneud yn lleoedd gwell i fyw, yna roedd angen iddynt allu pleidleisio i wneud hynny'n effeithiol. Daeth Addams yn fodel i fenywod y dosbarth canol, a ddechreuodd ddilyn ei syniadau, gan wirfoddolodd i wella eu cymunedau.

Magwraeth

golygu

Jane Addams oedd yr ieuengaf o wyth o blant a aned i deulu ffyniannus o ogledd Illinois, teulu a oedd yn wreiddiol o Loegr, ac a symudodd i Pennsylvania. Yn 1863, pan oedd Jane yn 2 oed, bu farw ei mam, Sarah Addams (g. Weber), tra'n feichiog gyda'i nawfed plentyn. Wedi hynny gofalwyd am Jane Addams gan ei chwiorydd hŷn yn bennaf. Pan oedd Addams yn wyth oed, roedd pedwar o'i brodyr a'i chwiorydd wedi marw: tri yn fabanod ac un yn 16 oed.[14][15]

Aelodaeth

golygu

Yn ystod ei hoes, bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd, Alpha Kappa Alpha, Cynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid, Cymdeithas Phi Beta Kappa a Phwyllgor Rhyngwladol Menywod dros Heddwch Parhaol. [16]

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Heddwch Nobel (1931), 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1973), Gwobr 'Hall of Fame' Merched Chicago (1988), Hall of Fame Lesbiaid a Hoywon Chicago (2008), Hall of Fame Americanwyr Mawr (1965)[17][18][19] .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Franklin, D. (1986). Mary Richmond and Jane Addams: From Moral Certainty to Rational Inquiry in Social Work Practice. Social Service Review , 504-525.
  2. Chambers, C. (1986). Women in the Creation of the Profession of Social Work. Social Service Review , 60 (1), 1–33.
  3. Shields, Patricia M. (2017). Jane Addams: Pioneer in American Sociology, Social Work and Public Administration. In, P. Shields Editor, Jane Addams: Progressive Pioneer of Peace, Philosophy, Sociology, Social Work and Public Administration tt. 43–68.ISBN 978-3-319-50646-3
  4. Shields, Patricia M. (2017). Jane Addams: Peace Activist and Peace Theorist In, P. Shields Editor, Jane Addams: Progressive Pioneer of Peace, Philosophy, Sociology, Social Work and Public Administration tt. 31-42. ISBN 978-3-319-50646-3
  5. "Celebrating Women's History Month: The Fight for Women's Rights and the American Civil Liberties Union, ACLU". ACLU Virginia.
  6. Maurice Hamington, "Jane Addams" in Stanford Encyclopedia of Philosophy (2010) portrays her as a radical pragmatist and the first woman 'public philosopher" in United States history".
  7. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
  8. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index1.html.
  9. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
  10. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Jane Addams". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jane Addams". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jane Adams". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jane Addams". "Jane Addams". "Jane Addams". "Jane Addams". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jane Addams".
  11. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Jane Addams". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jane Addams". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jane Addams".
  12. Enw genedigol: https://www.nobelprize.org/prizes/peace/1931/addams/biographical/. dyddiad cyrchiad: 18 Ebrill 2023.
  13. Jane Addams, "Utilization of Women in City Government," in Alice S. Rossi, ed., The Feminist Papers: From Adams to de Beauvoir (1997), 604-612. This is also chapter 7 in Addams's 1907 book Newer Ideals of Peace tt. 180–208.
  14. Knight, Louise W. (2005). Citizen: Jane Addams and the Struggle for Democracy. Chicago: University of Chicago Press. tt. 32–33.
  15. Fox, Richard Wrightman and Kloppenberg, James T. A Companion to American Thought, (Google Books), Blackwell Publishing: 1995, p. 14, (ISBN 0631206566). Retrieved 20 Awst 2007.
  16. Anrhydeddau: http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/peace/laureates/1931/addams-facts.html. https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/about/amounts/. https://www.womenofthehall.org/inductee/jane-addams/.
  17. http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/peace/laureates/1931/addams-facts.html.
  18. https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/about/amounts/.
  19. https://www.womenofthehall.org/inductee/jane-addams/.