Mbabane
Prifddinas Eswatini yn Affrica Ddeheuol yw Mbabane. Fe'i lleolir yn yr ucheldiroedd yn ardal Hhohho yng ngorllewin y wlad. Mae ganddi boblogaeth o tua 95,000 (amcangyfrif 2007). Datblygodd Mbabane yn ystod y 19g a daeth hi'n brifddinas Eswatini ym 1902 yn sgîl dyfodiad y Prydeinwyr. Heddiw, mae economi'r ddinas yn dibynnu ar fasnach, twristiaeth a diwydiant ysgafn.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 60,691 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Hhohho - Mbabane Region |
Gwlad | Eswatini |
Arwynebedd | 150 ±1 km² |
Uwch y môr | 1,243 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Mbabane |
Cyfesurynnau | 26.3167°S 31.1333°E |
Cod post | H100 |