Neidio i'r cynnwys

Richard Parry (esgob)

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Richard Parry (esgob) a ddiwygiwyd gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau) am 02:54, 14 Awst 2020. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Richard Parry
Ganwyd1560 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1623 Edit this on Wikidata
Diserth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl Edit this on Wikidata
Cerflun o Richard Parry ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl yn Llanelwy.

Roedd Richard Parry (1560 - 26 Medi 1623) yn Esgob Llanelwy. Fe'i cofir yn bennaf am iddo gyhoeddi fersiwn diwygiedig o gyfieithiad Cymraeg yr Esgob William Morgan o'r Beibl.

Magwraeth ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganed Richard Parry yn 1560 yn fab i John ap Hari, Pwllhalog, Cwm, Sir y Fflint a'i wraig Elen ferch Dafydd ap John, o Llanfair Dyffryn Clwyd, ger Rhuthun, Sir Ddinbych.

Aeth i Ysgol Westminster ac yna i Eglwys Crist, Rhydychen, un o golegau Prifysgol Rhydychen; graddiodd B.A. ar 5 Chwefror 1584. Tra oedd yn bennaeth ysgol Rhuthun, graddiodd yn M.A. ar 4 Mehefin 1586 ac yn ddiweddarach ar 4 Mawrth 1594, yn B.D.[1]

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Daeth yn brifathro Ysgol Rhuthun, ac yn 1599 yn Ddeon Bangor ar 5 Ebrill 1584. Cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy ar 30 Rhagfyr 1604. Priododd Gwen ferch John ap Rhys Wyn tua 1598, a chawsant bedwar mab a saith merch.

Cyhoeddodd Parry fersiynau diwygiedig o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1620 a 1621. Er mai ei enw ef oedd wrth y rhain, credir mai ei frawd-yng-nghyfraith John Davies, Mallwyd a wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith.

Bu farw yn Niserth ar 26 Medi 1623.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Y Bywgraffiadur Arlein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 30 Rhagfyr 2016.