Alpe d'Huez
Math | cyrchfan sgïo, free flight site |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Alpe d'Huez Grand Domaine Ski |
Sir | Huez |
Gwlad | Ffrainc |
Uwch y môr | 1,860 metr |
Cyfesurynnau | 45.09°N 6.07°E |
Rheolir gan | Q129918391 |
Cadwyn fynydd | Grandes Rousses |
Cyrchfan sgio yw Alpe d'Huez yng nghymuned Huez, yn département Isère. Fe'i lleolir ar borfa mynyddig yn yr Alpau ar lefel o 1860 metr (3330 troedfedd) uwchben y môr.
Yr haf ar Alpe d'Huez
[golygu | golygu cod]Tour de France
[golygu | golygu cod]Mae Alpe d'Huez yn un o'r mynyddoedd pwysicaf yn y Tour de France. Mae cymal wedi gorffen yno bron pob blwyddyn ers 1976. Cynhaliwyd y cyntaf yno yn 1952 ac enillodd Fausto Coppi.[1]
Daethpwyd a'r ras i'r mynydd gan Élie Wermelinger, y prif commissaire (dyfarnwr).[1] Gyrroedd ei gar, Dyna-Panhard, rhwng y cloddiau o eira a safai naill ochr i'r ffordd ym mis Mawrth 1952, wedi iddo gael ei wahodd gan gonsortiwm o fusnesau a oedd wedi agor gwestai ar y copa.[2] Georges Rajon, a oedd yn rhedeg Hotel Christina, oedd arweinydd y consortiwm.[3] Agorodd yr orsaf sgio yno ym 1936, felly roedd y ffordd wedi cael ei ledaenu er ei fod yn llawn tyllau. Adroddodd Wermelinger yn ôl at y trefnydd, Jacques Goddet, ac arwyddodd y Tour gytundeb gyda'r dynion busnes i gynnwys Alpe d'Huez yn llwybr y Tour.[2] Costiodd swm sy'n gyfartal i €3,250 mewn arian cyfoes.[3]
Yn y cymal cyntaf ar Alpe d'Huez, ymosododd Fausto Coppi 6 km o'r copa er mwyn disgyn y reidiwr Ffrangeg, Jean Robic, gan fynd ymlaen i ennill. Dywedodd Coppi ei fod yn gwybod iddo ei ddisgyn gan na allai glywed ei anadlu na sŵn teiars ar y ffordd y tu ôl iddo bellach.[1][4] Trodd yr Alpe yn lledrith yn syth oherwydd mai hwn oedd y tro cyntaf i feiciau modur, gyda criwiau ffilmio ar gyfer y teledu, ddilyn y Tour.[1] Dyma hefyd oedd y tro cyntaf i gymal y Tour orffen ar gopa mynydd.[5]
Wedi buddugoliaeth Coppi, ni gynhwyswyd yr Alpe hyd 1964, ac bu absenodeb arall unwaith eto hyd 1976,[6] ymddangosodd y ddwy dro hwn oherwydd cynnig Rajon.[3]
Mae'r esgyniad yn 13.8 km o hyd ar lethr ar gyfartaledd o 7.9%, mae 21 tro pin-gwallt (les 21 virages), pob un wedi eu enwi ar ôl enillydd cymal 'r Tour yno. Roedd gormod o enillwyr erbyn iddo gael ei gynnal am yr 21ain tro, fell ychwanegwyd enw Lance Armstrong at enw Coppi ar y tro cyntaf ar waelod yr allt.
Gwyliwyr
[golygu | golygu cod]Mae torf anhrefn o wyliwyr ar yr Alpe yn aml. Cafodd Giuseppe Guerini ei daro oddi ar ei feic ym 1999, pan neidiodd gwyliwr allan i dynnu ei lun, fe aeth Guerini ymlaen i ennill y cymal er hynnu. Daeth anhrefn yn ystod treial amser unigol 2004 pen ddechreuodd y gwyliwyr wthio'r reidwyr fyny tuag at y copa. Mae ffigyrau'r gwylwyr yn amrywio'n fawr, ac nid yn gwbl ddibynadwy, hawliwyd fod miliwn yno ym 1997. Ond dywedodd Maer Alpe d'Huez, Eric Muller, y bu 350,000 yno yn 2001, er i bawb honni fod y ffigwr yn dringo yn flynyddol.[7]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]Gorffennodd cymal 2008 ar uchder o 1850 metr yn hytrach na 1860 fel y bu ym mhob cymal cynt.
*Roedd dau gymal ar Alpe d'Huez ym 1979.
Defnyddir y cpa hefyd fel diwedd La Marmotte, reid un dydd 175 km o hyd sy'n cynnwyd 5000m o ddringo. Defnyddir hefyd ar gyfer sgio lawr allt neu sgio Alpaidd.
Esgyniadau cyflymaf Alpe d'Huez
[golygu | golygu cod]Mae esgyniad yr allt i Alp d'Huez wedi cael ei amseru yn swyddogol ers 1994, felly mae cryn ddadl ynglŷn â'r amserau cyn hyn. Rhwng 1994 ac 1997, amserwyd yr esgyniad o 14.5 km o'r diwedd. Ers 1999, mae diwedd-ffoto wedi cael ei ddefnyddio o 14 km o'r diwedd. Mae amserau eraill wedi cael eu cofnodi o 13.8 km o'r copa, sef dechrau swyddogol yr esgyniad. Mae eraill wedi cael eu cofnodi o 700m o gychwyn yr esgyniad.[8]
Amserau'r esgyniad
[golygu | golygu cod]* Ar ffurf treial amser unigol.
** Canfyddwyd yn euog o ddefnyddio cyffurio yn y rhifyn hwnnw o'r Tour de France.
13.8 km:[9]
Rheng | Amser | Enw | Blwyddyn | Cenediglrwydd |
---|---|---|---|---|
1 | 36' 50" | Marco Pantani | 1995 | Yr Eidal |
2 | 36' 55" | Marco Pantani | 1997 | Yr Eidal |
3 | 37' 15" | Marco Pantani | 1994 | Yr Eidal |
4 | 37' 36" | Lance Armstrong | 2004 | UDA |
5 | 37' 41" | Jan Ullrich | 1997 | Yr Almaen |
6 | 38' 00" | Lance Armstrong | 2001 | UDA |
7 | 38' 10" | Miguel Induráin | 1995 | Sbaen |
7 | 38' 10" | Alex Zülle | 1995 | Y Swistir |
8 | 38' 12" | Bjarne Riis | 1995 | Denmarc |
9 | 38' 22" | Richard Virenque | 1997 | Ffrainc |
Beicio Mynydd
[golygu | golygu cod]Mae'r gyrchfan hefyd yn denu nifer o feicwyr mynydd yn ystod yr haf, yn arbennig adeg ras Megavalanche, ras dygner lawr allt sy'n mynd a'r reidwyr o'r orsaf lifft i'r copa uchaf, Pic Blanc, cyn iddynt reidio i lawr i Alamond ar lawr y dyffryn.
Yr haf ar Alpe d'Huez
[golygu | golygu cod]Sgio ar Alpe d'Huez
[golygu | golygu cod]Mae Alpe d'Huez yn un o brif gyrchfannau sgio Ewrop. Dyma oedd safle lifft cyntaf Pomagalski ar yr arwyneb yn ystod yr 1930au, daeth y gyrchfan yn boblogaidd pan gynhaliwyd cystadlaeuthau bobsleigh Gemau Olympaidd y Gaeaf 1968 yno. Cysidrwyd y gyrchfan yn gystadleuydd i Courchevel, cyrchfan mwyaf uwch-farchnad Ffrainc ar y pryd a oedd wedi ei adeiladu'n bwrpasol, ond wedi datblygiad Les Trois Vallées, Val d'Isère, Tignes, La Plagne a Les Arcs daeth Alpe D'Huez yn llai poblogaidd yn ystod yr 1970au a'r 1980au cynnar.
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Gefeilldrefi Alpe d'Huez yw:
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Vélo, France, Mehefin 2004
- ↑ 2.0 2.1 Chany, Pierre (1988), La Fabuleuse Histoire du Tour de France, Nathan, France
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Procycling, UK, Awst 2002
- ↑ L'Équipe Magazine, 17 Gorffennaf 2004
- ↑ L'Équipe Magazine, 20 Gorffennaf 2002
- ↑ Cycling Weekly, UK, Tachwedd 2001
- ↑ Journal du Dimanche, Ffrainc, 13 Gorffennaf 2003
- ↑ Alpe d'Huez. www.gastrobiking.com.
- ↑ ChronoWatts.com
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Pezcyclingnews interview of Historian Jean-Paul Vespini's book "The Tour Is Won On The Alpe" by Matt Wood
- Ski Resort Website (in French & English)
- Oz-en-Oisans info
- Map and details of 5 Cycling Routes up Alpe d'Huez (in English)
- Alpe d'Huez Archifwyd 2007-04-07 yn y Peiriant Wayback – Independent guide to Alpe d'Huez in English
- The Tour Is Won on the Alpe: Alpe d'Huez and the Classic Battles of the Tour de France
- Interactive road map with photos of each hairpin-bend and road sign Archifwyd 2011-07-24 yn y Peiriant Wayback
- Google Map of Various Cycling Routes and Landmarks
- CYCLEFILM's Video Reconnaissance of Alpe d'Huez Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- Grenoble Cycling information page on Alpe d'Huez including profiles, photos and map Archifwyd 2009-07-24 yn y Peiriant Wayback