Ban-de-Laveline
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,183 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Ballons des Vosges Regional Natural Park |
Arwynebedd | 26.45 km² |
Uwch y môr | 403 metr, 1,031 metr |
Yn ffinio gyda | Bertrimoutier, Raves, Sainte-Marie-aux-Mines, Coinches, La Croix-aux-Mines, Gemaingoutte |
Cyfesurynnau | 48.2442°N 7.065°E |
Cod post | 88520 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Ban-de-Laveline |
Mae Ban-de-Laveline yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae cymuned Ban-de-Laveline yn rhychwantu sawl dyffryn bach rhwng mynyddoedd Croix-aux-Mines yn y de, Wisembach i'r dwyrain, Bertrimoutier i’r gogledd a Coinches i'r gorllewin. Mae'r gymuned yn cael ei groesi gan nifer o afonydd, y prif un yw Afon Morte, un o lednentydd Afon Fave, sy'n tarddu yn nhref Croix-aux-Mines.
Mae'n un o'r 188 gymuned sy’n sefyll ym Mharc Naturiol Rhanbarthol Ballons des Vosges.
Mae'r gymuned yn sefyll ar briffordd y D23 sy’n mynd o Raves yn y gogledd i Croix-aux-Mines yn y de. Mae dwy ffordd leol yn cysylltu’r gymuned a Coniches i’r gorllewin a Gemaingoutte yn y gogledd-ddwyrain. Mae Ban-de-Laveline yn ffinio â chwe chymuned yn Vosges: Gemaingoutte, Wisembach, Bertrimoutier, Rave, Coinches, La Croix-aux-Mines ac un gymuned yn Alsace sef Sainte Marie aux Mines, Haut-Rhin.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Safleoedd a Henebion
[golygu | golygu cod]- Eglwys ymgnawdoliad y Forwyn Fair a adeiladwyd ym 1716 ar safle tŷ gweddi yn dyddio o’r 11 neu'r 12 ganrif. Ym 1725 bu i fellten dinistrio'r rhan fwyaf o’r tŵr.[1]
- Capel St. Clair, Hautgoutte a adeiladwyd ym 1770 gan ddinesydd o Hautgoutte, Nicolas Noël, fel diolch am adennill ei olwg. Saif ffynnon St Clair ger y capel lle fydd pererinion yn golchi eu llygaid gwan yn yr obaith y byddant hwy hefyd yn derbyn iachâd.
- Groto Notre-Dame-de-Lourdes
- Olion hen gastell
-
Eglwys ymgnawdoliad y Forwyn Fair
-
Chapelle Sainte-Claire à Hautgoutte
-
Grotte Notre-Dame-de-Lourdes
Pobl enwog o Ban-de-Laveline
[golygu | golygu cod]Adrien Evrard (1873-1957), Offeiriad.[2] Gustave Morel (1872-1905), offeiriad ac athronydd[3]. Pierre Bastien (1924-2006), meddyg, dyfeisiwr o "protocol Bastien" wrth drin cleifion sydd wedi eu gwenwyno gan Amanita.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Orgue de l'église de Ban de Laveline". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-15. Cyrchwyd 2017-08-17.
- ↑ Biographie vosgienne Adrien EVRARD
- ↑ Biographie vosgienne Gustave MOREL