Baner Tibet
Gwedd
Ailgyflwynwyd baner Tibet yn 1912 gan y 13eg Dalai Lama, a gyfunodd baneri byddinoedd taleithiau'r wlad i greu'r faner bresennol. Ers hynny, mae wedi gwasanaethu fel baner filwrol Tibet gyfan hyd 1950. Erys yn faner ac emblem swyddogol Gweinyddiaeth Ganolog Tibet, y llywodraeth alltud sydd â'i phencadlys yn Dharamsala, gogledd-orllewin India. Fel symbol amlwg o fudiad annibyniaeth Tibet a gwrthwynebiad i reolaeth Gweriniaeth Pobl Tsieina ar y wlad, mae'n cael ei gwahardd yn Nhibet a thir mawr Tsieina (ac eithrio Hong Cong, sy'n mwynhau gradd o hunanlywodraeth fewnol). Mae'r faner yn cynnwys Llew yr Eira, anifail mytholegol sydd â lle pwysig yn niwylliant a thraddodiad Tibet.