Bartolomé de las Casas
Bartolomé de las Casas | |
---|---|
Ganwyd | 11 Tachwedd 1484 Sevilla |
Bu farw | 17 Gorffennaf 1566 Madrid |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | llenor, offeiriad Catholig, cenhadwr, anthropolegydd |
Swydd | bishop of San Cristóbal de las Casas |
llofnod |
Cenhadwr o Ddominiciad ac hanesydd o Sbaen oedd Bartolomé de las Casas (tua 1484 – Gorffennaf 1566) sydd yn nodedig am wrthwynebu caethwasiaeth y brodorion yn nhiriogaethau Sbaenaidd y Byd Newydd ac am ei waith Historia de las Indias.
Ganed Bartolomé de las Casas tua 1484 yn Sevilla, Castilia, yn fab i farsiandïwr. Aeth yn filwr i Granada ym 1497 ac astudiodd Ladin yn academi Eglwys Gadeiriol Sevilla. Ym 1502 ymunodd Las Casas ag alldaith Nicolás de Ovando, Llywodraethwr India'r Gorllewin, i ynys Hispaniola. Derbyniodd dir a chaethweision dan y drefn encomienda, a bu Las Cases yn doctrinero (athro lleyg y catecism) ar gyfer brodorion ei diriogaeth. Cafodd ei ordeinio ym 1512 neu 1513, o bosib y dyn cyntaf yn y Byd Newydd i gael ei urddo'n offeiriad. Ymunodd Las Casas yn gaplan â gorchfygiad Ciwba ym 1513, ac yno derbyniodd rhandir a chyfran o gaethweision brodorol.[1]
Effeithiodd erchyllterau'r frwydr yng Nghiwba yn gryf ar gydwybod Las Casas. Mewn pregeth ar 15 Awst 1514, datganodd ei fod am roi ei gaethweision yn ôl i'r llywodraethwr. Dychwelodd i Sbaen ym 1515 ac ymgyrchodd dros newidiadau i driniaeth y brodorion yn yr Amerig. Gyda chymorth Francisco Jiménez de Cisneros, Archesgob Toledo, lluniwyd y Plan para la reformación de las Indias a phenodwyd Las Casas yn Amddiffynnydd yr Indiaid. Yn Nhachwedd 1516, aeth â chomisiwn i archwilio statws y brodorion yn nhiriogaethau Sbaen yn y Byd Newydd. Dychwelodd Las Casas i Sbaen ym 1517, ac yn Rhagfyr 1519 fe siaradodd o blaid achos y brodorion yn senedd Barcelona. Llwyddodd i ddwyn perswâd ar y Brenin Siarl I i sefydlu cymunedau o wladychwyr Sbaenaidd a brodorion rhydd yn yr Amerig. Teithiodd Las Casas â chriw o lafurwyr i sefydlu gwladfa amaethyddol o'r fath ar lannau Gwlff Paria, yng ngogledd-ddwyrain Feneswela, yn Rhagfyr 1520. Methodd recriwtio digon o ffermwyr i gynnal y wladfa, ac yn sgil gwrthwynebiad yr encomenderos yn India'r Gorllewin a chyrch gan y brodorion, daeth yr ymdrech i ben yn Ionawr 1522.[1]
Symudodd Las Cases unwaith eto i Hispaniola ac ymunodd ag Urdd y Dominiciaid ym 1523. Cychwynnodd ar ei waith Historia apologética ym 1527 tra'r oedd yn brior ar leiandy Puerto de Plata, ac yn ddiweddarach cyflawnodd ei gampwaith, Historia de las Indias. Ni chyhoeddwyd y gwaith hwnnw, ar gais yr awdur, nes ar ôl ei farwolaeth, ond mynegodd Las Casas ei wrthwynebiad i gaethwasiaeth a threfn yr encomienda mewn tri llythyr i Gyngor India'r Gorllewin ym Madrid (1531, 1534, a 1535) ac yn ei waith De único modo (1537), sydd yn dadlau dros bregethu'r efengyl i frodorion yr Amerig. Rhoddai'r athrawiaeth hon ar waith gan y Dominiciaid yn Tuzulutlan (Gwatemala), ac yn sgil ei lwyddiant yno dychwelodd Las Casas i Sbaen yn niwedd 1539. Tra'n galw ar y Brenin Siarl i wella triniaeth y brodorion, ysgrifennodd Las Casas Brevísima relación de la destrucción de las Indias ym 1542. Cytunodd y Brenin Siarl i'r Leyes Nuevas ("Cyfreithiau Newydd") i ddiwygio'r encomienda, a phenodwyd Las Casas yn Esgob Chiapas gyda'r awdurdod i roi'r gyfraith mewn grym. Aeth Las Casas a 44 o Ddominiciaid eraill i'r Amerig yng Ngorffennaf 1544, ac wedi iddynt gyrraedd yn Ionawr 1545 cyhoeddwyd Avisos y reglas para confesores de españoles yn gwrthod maddeuant pechodau i'r rhai a oedd yn berchen ar frodorion drwy drefn yr encomienda. Methiant a fu ymdrechion Las Casas i orfodi'r rheolau hyn, a dychwelodd i Sbaen ym 1547.[1]
Parhaodd Las Casas i bleidio dros achos y brodorion yn y llys brenhinol a gerbron Cyngor India'r Gorllewin. Ysgrifennodd sawl llyfr, deiseb, a thraethodyn, a chafodd ddadl gyhoeddus yn erbyn Juan Ginés de Sepúlveda, awdur Democrates alter de justis belli causis apud Indos (1550), yng Nghyngor Valladolid (1550–51). Bu farw Las Casas yn lleiandy'r Dominiciaid, Nuestra Señora de Atocha ym Madrid, tua 82 oed. Oherwydd ei waith dros achos y brodorion, rhoddwyd iddo'r llysenw "Apostol yr Indiaid".[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Bartolomé de Las Casas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Mehefin 2020.
- ↑ Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 125.