Neidio i'r cynnwys

Beata Szydło

Oddi ar Wicipedia
Beata Szydło
Prif Weinidog Gwlad Pwyl
Yn ei swydd
16 Tachwedd 2015 – 11 Rhagfyr 2017
ArlywyddAndrzej Duda
DirprwyPiotr Gliński
Mateusz Morawiecki
Jarosław Gowin
Rhagflaenwyd ganEwa Kopacz
Dilynwyd ganMateusz Morawiecki
Manylion personol
GanwydBeata Maria Kusińska
(1963-04-15) 15 Ebrill 1963 (61 oed)
Oświęcim, Gwlad Pwyl
Plaid wleidyddolCyfraith a Chyfiawnder (Prawo i Sprawiedliwość)
PriodEdward Szydło
Plant2
Alma materJagiellonian University
GwefanGwefan swyddogol

Gwleidydd Pwylaidd a Phrif Weinidog Gwlad Pwyl ers 16 Tachwedd 2015 - 11 Rhagfyr 2017 yw Beata Maria Szydło (ganwyd 15 Ebrill 1963).

Ganwyd Beata Maria Kusinska yn Oświęcim, 50 kilometr (31 mi) i'r gorllewin o Kraków, yn ferch i löwr, a chafodd ei magu yn Brzeszcze gerllaw. Mynychodd Brifysgol Jagiełło yng Nghracof, ac yno y cyfarfu â'i gŵr Edward Szydło. Astudiodd am ddoethuriaeth o 1989 i 1995, a gweithiodd yn Ysgol Economeg Warsaw, Prifysgol Economeg Kraków, ac yng nghanolfannau diwylliannol Libiąż a Brzeszcze.[1][2]

Ym 1998, cafodd ei hethol yn faer Brzeszcze. Yn 2005, ymddiswyddodd yn faer ac ymunodd â'r blaid Cyfraith a Chyfiawnder (Prawo i Sprawiedliwość; PiS) a chafodd ei hethol i'r Sejm, a'i hailethol yn 2007 a 2011. Cafodd ei hethol yn is-lywydd y blaid yn 2010, ac yn 2015 rheolodd ymgyrch arlywyddol lwyddiannus Andrzej Duda. Cafodd ei dewis yn ymgeisydd PiS am brif weinidog ar gyfer etholiad 2015. Enillodd PiS fwyafrif o seddi'r Sejm, a daeth Szydło yn bennaeth ar lywodraeth unblaid gyntaf y wlad ers cwymp y drefn gomiwnyddol ym 1989.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Adam Easton (26 October 2015). "Beata Szydlo: Polish miner's daughter set to be PM". BBC Online. Cyrchwyd 29 Hydref 2015.
  2. Polish Press Agency (16 Tachwedd 2015). "Beata Szydło – premier" (yn Pwyleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-21. Cyrchwyd 2017-08-16.