Brokeback Mountain
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Ang Lee |
Cynhyrchydd | Diana Ossana Larry McMurtry Scott Ferguson James Schamus |
Ysgrifennwr | Annie Proulx Diana Ossana Larry McMurtry |
Serennu | Heath Ledger Jake Gyllenhaal Anne Hathaway Michelle Williams Randy Quaid |
Cerddoriaeth | Gustavo Santolalla |
Sinematograffeg | Rodrigo Prieto |
Golygydd | Geraldine Peroni Dylan Tichenor |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Focus Features Paramount Pictures Good Machine Universal (DVD) |
Dyddiad rhyddhau | 16 Rhagfyr 2005 |
Amser rhedeg | 134 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Brokeback Mountain (2005) yn ffilm ramantaidd-ddramatig sy'n darlunio'r berthynas ramantaidd a rhywiol rhwng dau ddyn yng Ngorllewin America rhwng 1963 a 1983.[1]
Cyfarwyddwyd y ffilm gan y cyfarwyddwr o Taiwan, Ang Lee, ar sail sgript gan Diana Ossana a Larry McMurtry. Roedd y sgript yn addasiad o stori fer o'r un enw gan Annie Proulx. Mae Heath Ledger, Jake Gyllenhaal, Anne Hathaway a Michelle Williams yn serennu yn y ffilm.
Enillodd Brokeback Mountain y Golden Lion yng Ngŵyl Ffilm Fenis a chafodd ei anrhydeddu â'r gwobrau am Ffilm Orau ac am Gyfarwyddwr Gorau gan BAFTA, Gwobrau'r Golden Globe, Gwobrau'r Critics Choice a'r Gwobrau Independent Spirit ynghyd â nifer o ŵyliau a sefydliadau eraill. Enwebwyd y ffilm am wyth Gwobr yr Academi, gan ennill tri: Cyfarwyddwr Gorau, Addasiad o Sgript Gorau a Sgôr Wreiddiol Orau. Credai nifer mai'r ffilm oedd y ceffyl blaen ar gyfer Gwobr yr Academi am y Ffilm Orau, ond cipiwyd y wobr honno gan y ffilm Crash.[2] Ymysg ffilmiau rhamantaidd, mae Brokeback Mountain yn 10fed yn ôl maint derbyniadau gros mewn swyddfeydd tocynnau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Proulx, Annie; McMurtry, Larry; Ossana, Diana (2005, 2006). "Brokeback Mountain: Story to Screenplay". London, New York, Toronto and Sydney: Harper Perennial. ISBN 978-0-00-723430-1
- ↑ Drudge, Matt (2005). "Hollywood rocked: 'Gay cowboy' movie becomes an Oscar front runner". Drudge Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-14. Cyrchwyd 2012-06-03.