Brwydr Pharsalus
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 9 Awst 48 CC, 6 Mehefin 48 CC, 29 Mehefin 48 CC |
Rhan o | Caesar's Civil War |
Lleoliad | Farsala |
Gwladwriaeth | Gwlad Groeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brwydr dyngedfennol y rhyfel cartref Rhufeinig rhwng Iŵl Cesar a Gnaeus Pompeius Magnus oedd Brwydr Pharsalus, a ymladdwyd yn 48 CC gerllaw Pharsalus (Farsala heddiw) yng nghanolbarth Gwlad Groeg.
Yn 49 CC, croesodd Cesar a'i fyddin Afon Rubicon, y ffin rhwng ei dalaith ei hun a'r Eidal, gan ddechrau rhyfel cartref yn Rhufain. Cymerodd Pompeius blaid y Senedd, yn erbyn Cesar.
Enciliodd Pompeius i Brundisium cyn croesi i Wlad Groeg, a'r rhan fwyaf o Senedd Rhufain gydag ef. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ôl. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym Mrwydr Pharsalus, a ffôdd Pompeius i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin Ptolemi XIII. Gadawodd hyn Cesar yn feistr ar Rufain.