Brwydr Thermopylae
- Am frwydrau eraill yn Therompylae, gweler Brwydr Thermopylae (gwahaniaethu)
Roedd Brwydr Thermopylae (Y Pyrth poeth, o’r ffynhonnau poethion gerllaw) yn frwydr rhwng y Groegiaid, dan arweiniad Sparta, ac Ymerodraeth Persia yn 480 CC.
Methodd un ymgais gan y Persiaid i ychwanegu Gwlad Groeg at eu hymerodraeth, dan Darius I yn 490 CC, pan orchfygwyd eu byddin gan yr Atheniaid ym Mrwydr Marathon. Yn 480 CC ymosododd mab Darius, Xerxes I, oedd wedi dod yn frenin Persia wedi marwolaeth ei dad, ar y Groegiaid gyda byddin lawer mwy na’r un oedd gan y Persiaid ddeng mlynedd ynghynt. Daw’r wybodaeth am hanes y rhyfel yn bennaf o waith yr hanesydd Groegaidd Herodotus.
Croesodd byddin Xerxes yr Hellespont ar bont wedi ei gwneud o gychod, a meddiannu gogledd Groeg, lle cafodd gefnogaeth nifer o’r dinas-wladwriaethau. Mae dadlau ymhlith haneswyr ynghylch maint byddin y Persiaid; yn ôl Herodotus roedd tua dwy filiwn a hanner ohonynt, ond nid yw haneswyr diweddar yn derbyn ei ffigyrau. Cred rhai ei bod tua 250,000, tra cred eraill fod ei nifer yn llai, yn bennaf oherwydd eu bod o’r farn na fyddai digon o ddŵr ar gael i fyddin mor fawr.
Penderfynodd y Groegiaid geisio gwrthsefyll y Persiaid yn Thermopylae, lle roedd y ffordd tua’r de yn mynd trwy fwlch cul, dim ond tua 12 medr yn y man culaf, rhwng y mynyddoedd a’r môr. Roedd byddin y Groegiaid yn cynnwys 300 hoplit o Sparta (a chyda hwy tua 600 o helotiaid, gan fod pob Spartiad yn mynd â dau was gydag ef, 500 o wŷr Tegea, 500 o Mantinea, 120 o Orcomenos a 1,000 arall o’r gweddill o Arcadia, 400 o ddinas Corinth, 200 o Fliunte, 80 o Mycenae, 700 o Thespiaid a 400 o Thebai, gyda 1,000 o’r Ffociaid a Locriaid. Er fod y Spartiaid yn un o’r grwpiau lleiaf yn y fyddin, hwy oedd yn arwain, dan ei brenin Leonidas; roeddynt yn filwyr proffesiynol tra’r oedd y gweddill yn ddinasyddion wedi eu galw i’r gad.
Pan gyrhaeddodd byddin Persia Thermopylae, dywedir i Xerxes anfon cennad at y Groegiaid yn gorchymyn iddynt ildio eu harfau rhag cael eu dinistrio. Ateb Leonidas oedd
Μολων λαβε
Tyrd i’w casglu dy hun.
Ymosododd y Persiaid, ond gan fod y bwlch mor gul ni allent ddefnyddio mwy na rhan fechan o’u byddin ar unwaith. Roedd arfau y Groegiaid yn well, a dioddefodd y Persiaid golledion mawr yn yr ymosodiadau cyntaf. Danfonodd Xerxes ddeng mil o’i filwyr gorau, yr Anfarwolion, i ymosod, ond methu wnaethant hwythau, a lladdwyd cannoedd ohonynt.
Gyda’r Persiaid yn dechrau anobeithio, daeth Groegwr o Tesalia o’r enw Effialtes at Xerxes, a dweud ei fod yn gwybod am lwybr trwy’r mynyddoedd fyddai’n galluogi milwyr Persaidd i ddod i lawr i’r gwastadedd tu cefn i’r Groegiaid. Gyrrodd Xerxes ran o’i fyddin ar hyd y llwybr yma dan arweiniad Effialtes. Roedd y Ffociaid wedi cael y dasg o amddiffyn y llwybr yma, ond pan welsant y Persiaid, ffoesant heb geisio eu gwrthwynebu.
Pan glywodd Leonidas beth oedd wedi digwydd, gyrrodd y rhan fwyaf o fyddin y Groegiaid i ffwrdd. Arhosodd y 300 Spartiad a’r milwyr o Thebes a’r Thespiaid. Erbyn bore’r pedwerydd diwrnod ers dechrau’r frwydr roedd y Persiaid yn dynesu o’r tu cefn, a dywedodd Leonidas wrth ei filwyr am gymeryd brecwast da, gan y byddent yn cael eu cinio yn Hades. Defnyddiodd y Persiaid eu saethwyr yn y frwydr olaf yn hytrach nag ymladd law yn llaw â’r Groegiaid, a lladdwyd Leonidas gan saeth yn weddol fuan. Parhaodd y frwydr nes i bob un o’r Spartiaid gael eu lladd; dywed Herodotus i ychydig o’r Groegiaid eraill ildio i’r Persiaid.
Er i’r Groegiaid gael eu gorchfygu, bu’r frwydr yn ysbrydoliaeth i’r Groegiaid eraill. Gorchfygwyd llynges y Persiaid gan lynges o Roeg dan arweiniad Athen ym Mrwydr Salamis, a bu raid i Xerxes a rhan sylweddol o’i fyddin ddychwelyd i Asia Leiaf. Arhosodd byddin yng Ngroeg dan Mardonius, ond gorchfygwyd y fyddin honno gan y Groegiaid, dan Pausanias, brenin Sparta, ym Mrwydr Plataea.
Ar fedd y Spartiaid, rhoddwyd epigram gan y bardd Simonides:
Ὦ ξεῖν᾿, ἀγγέλλειν Λακεδαιμονίοις ὅτι τῇδε
κείμεθα τοῖς κείνων ῥήμασι πειθόμενοι
Dwed wrthynt yn Lacedaimon, ddieithryn ar dy hynt
Mai yma yr ydym fyth, yn unol â'u deddfau hwy.
Mae hanes y frwydr wedi dod yn rhan o gynhysgaeth ddiwylliannol gwledydd y gorllewin, gyda’r pwyslais ar y 300 Spartiad, gan anghofio’n aml am y gweddill o’r fyddin. Ymddangosodd y ffilm The 300 Spartans yn 1961 , ac ym mis Mawrth 2007 y ffilm 300, yn seiliedig ar nofel graffig Frank Millar.