Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead
Math | dosbarth, ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
---|---|
Prifddinas | Maidenhead |
Poblogaeth | 150,906 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Berkshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 196.5017 km² |
Cyfesurynnau | 51.4667°N 0.6667°W |
Cod SYG | E06000040 |
GB-WNM | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Windsor and Maidenhead Borough Council |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead. Saif Castell Windsor, cartref Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig, yn y fwrdeistref; am y rheswm hwn mae'n cynnwys y gair "brenhinol" yn ei henw.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 197 km², gyda 150,906 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Reading a Bwrdeistref Wokingham i'r gorllewin, Bwrdeistref Slough i'r dwyrain, Swydd Buckingham i'r gogledd a Surrey i'r de.
Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol.
Lleolir pencadlys yr awdurdod yn Maidenhead. Mae aneddiadau eraill yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Ascot, Eton a Windsor, a'r pentrefi mawr Bray, Cookham, Datchet, Sunningdale, Sunninghill a Wraysbury.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 13 Ebrill 2020