C.P.D. Wrecsam
Enghraifft o'r canlynol | clwb pêl-droed |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1864 |
Lleoliad | Wrecsam |
Perchennog | Ryan Reynolds, Rob McElhenney |
Pencadlys | Wrecsam |
Enw brodorol | Wrexham A.F.C. |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.wrexhamafc.co.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Wrecsam | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Dreigiau | |||
Sefydlwyd | 1864[1] | |||
Maes | Y Cae Ras | |||
Cadeirydd | Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam | |||
Rheolwr | Phil Parkinson | |||
Cynghrair | Adran Gyntaf | |||
|
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn glwb pêl-droed yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n chwarae yn yr Adran Gyntaf ac a sefydlwyd yn 1864.[2] Cae Ras yw stadiwm a maes y Clwb, maes sydd wedi cynnal gemau rhyngwladol Cymru (pêl-droed a rygbi'r undeb) yn ogystal â bod yn gartref i'r 'Dreigiau'; yn hanesyddol adnabyddir y clwb fel y Robins. Dyma stadiwm rhyngwladol hynaf y byd.[3]
Yn 2011, yn dilyn trafferthion ariannol, prynwyd Y Cae Ras gan Brifysgol Glyndŵr; nid yw'r cytundeb yma'n cynnwys y clwb pel-droed na'r clwb rygbi'r cynghrair, ond mae'n caniatáu iddyn nhw barháu i ddefnyddio'r cyfleusterau. "Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam" yw perchnogion y clwb.[4][5] Erbyn Mai 2015, roedd gan y Clwb 4,129 o aelodau (oedolion a chyd-berchnogion).[6]
Mae'r record am y nifer mwyaf o gefnogwyr yn mynd nôl i 1957 pan chwaraewyd yn erbyn Manchester United F.C. gyda 36,445 o gefnogwyr yn gwylio.[7]
Mae gan y clwb nifer o ymrysonau â chlybiau Seisnig, gan gynnwys Dinas Caer a'r Amwythig. Ymhlith y gemau mwyaf cofiadwy y mae'r gêm yn erbyn Arsenal F.C. yn 1992, a oedd ar frig Cwpan yr FA ar y pryd. Llwyddodd y Clwb hefyd i drechu FC Porto yn 1984 yng Nghwpan Ewrop.
Pêl-droed Merched
[golygu | golygu cod]Ceir hefyd clwb pêl-droed a strwythur ar gyfer pêl-droed i fenywod. Mae C.P.D. Merched Wrecsam yn rhan o system Cynghreiriau Adran Cymru.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd y clwb ei ffurfio yn 1872 (yn ôl bathodyn y clwb, 1873 oedd y flwyddyn). Cafodd ei groesawu i Gynghrair Lloegr yn 1921.
Mae'r clwb wedi cynyrchioli Cymru yn Ewrop sawl gwaith yn sgil ennill Cwpan Cymru. Gwnaethon nhw guro nifer o dîmau enwog, ac yn 1976 wnaethon nhw gyrraedd yr wyth olaf y European Cup Winners' Cup, cyn colli i Anderlecht o Wlad Belg.
Yn 2005 cipiwyd yr LDV Vans Trophy gan Wrecsam. Chwaraewyd y gêm yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn erbyn Southend F.C. gyda Darren Ferguson a Juan Ugarte'n sgorio mewn buddigoliaeth o 2-0.
Disgynodd y clwb allan o Gynghrair Lloegr yn nhymor 2007/08 ar ôl treulio 87 mlynedd ynddi.
Yn 2013, aeth Wrecsam i chwarae ddwywaith yn Stadiwm Wembley yn Llundain ar ôl ennill yn rownd derfynol Tlws yr FA yn erbyn Grimsby a cholli yn rownd derfynol gemau ail-gyfle'r gynghrair yn erbyn Casnewydd.
Pigion
[golygu | golygu cod]Chwaraewyr
[golygu | golygu cod]- Y nifer mwyaf o goliau mewn tymor – 44.[8] Tommy Bamford (1933–34)
- Y nifer mwyaf o goliau'r Gynghrair – 174.[8] Tommy Bamford (1928–34)
- Y nifer fwyaf o Hat Tricks – 16. Tommy Bamford
- Y nifer mwyaf o goliau a sgoriwyd mewn un gê – 7.[9] Andy Morrell v C.P.D Merthyr Tudful, (Cwpan yr FAW; 16 Chwefror 2000)
- Mwyaf o ymddangosiadau– 592 Arfon Griffiths (1959–61, 1962–79)
- Mwyaf o gapiau – Dennis Lawrence, 89 i Dîm Cenedlaethol Trinidad & Tobago
- Mwyaf o gapiau tra yn Wrecsam – Dennis Lawrence – 49 i Trinidad & Tobago
- Chwaraewr hynaf – Billy Lot Jones – aged 46 v Tranmere Rovers
- Chwaraewr ieuengaf – Ken Roberts – 15 blwyddyn a 158 diwrnod v Bradford Park Avenue A.F.C.
Rhestr Rheolwyr
[golygu | golygu cod]- Ted Robinson (1912-1924)
- Charlie Hewitt (1924-1929)
- Jack Baynes (1929-1931)
- Ernest Blackburn (1932-1937)
- Jimmy Logan (1937-1938)
- Tom Morgan (1938-1940)
- Tom Williams (1940-1949)
- Les McDowall (1949-1950)
- Peter Jackson (1950-1954)
- Cliff Lloyd (1954-1957)
- John Love (1957-1959)
- Cliff Lloyd (1959-1960)
- Billy Morris (1960-1961)
- Ken Barnes (1961-1965)
- Billy Morris (1965)
- Jack Rowley (1966-1967)
- Alvan Williams (1967-1968)
- John Neal (1968-1977)
- Arfon Griffiths (1977-1981)
- Mel Sutton (1981-1982)
- Bobby Roberts (1982-1985)
- Dixie McNeil (1985-1989)
- Brian Flynn (1989-2001)
- Denis Smith (2001-20007)
- Brian Carey (2007)
- Brian Little (2007-2008)
- Dean Saunders (2008-2011)
- Andy Morrell (2011-2014)
- Kevin Wilkin (2014-2015)
- Gary Mills (2015-2016)
- Dean Keates (2016-2018)
- Andy Davies (dros dro) (2018)
- Sam Ricketts (2018)
- Graham Barrow (2018-2019)
- Bryan Hughes (2019)
- Dean Keates (2019-2021)
- Phil Parkinson (2021-)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol y clwb Archifwyd 2008-07-20 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam Archifwyd 2007-05-01 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Red Passion - Gwefan answyddogol cefnogwyr Wrecsam
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Randall, Liam. "Wrexham FC Fans To Vote To Accept 1864 Date Change". Wrexham.com. Cyrchwyd 28 Mehefin 2012.
- ↑ Randall, Liam. "Wrexham FC Fans To Vote To Accept 1864 Date Change". Wrexham.com. Cyrchwyd 14 Hydref 2014.
- ↑ Bagnall, Steve. "Guinness cheers Racecourse with official record". Daily Post Wales. Cyrchwyd 18 Mehefin 2008.
- ↑ wrexhamafc.co.uk; Archifwyd 2017-05-30 yn y Peiriant Wayback adalwyd Ionawr 2017.
- ↑ Randall, Liam. "Done Deal – WST buy WFC". Wrexham.com. Cyrchwyd 26 Medi 2011.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-07. Cyrchwyd 2017-01-17.
- ↑ http://www.11v11.com/matches/wrexham-v-manchester-united-26-january-1957-210986/
- ↑ 8.0 8.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-16. Cyrchwyd 2017-01-17.
- ↑ "wrexhamafc.co.uk; adalwyd Ionawr 2017". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-01. Cyrchwyd 2017-01-17.