Camp David
Math | canolfan filwrol, preswylfa swyddogol |
---|---|
Enwyd ar ôl | David Eisenhower |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Catoctin Mountain Park |
Sir | Frederick County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Uwch y môr | 1,850 troedfedd, 564 metr |
Cyfesurynnau | 39.6483°N 77.4636°W |
Rheolir gan | Llynges yr Unol Daleithiau |
Cadwyn fynydd | Catoctin Mountain |
Arddull pensaernïol | National Park Service rustic |
Preswylfa wledig Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Camp David a leolir ym mryniau coediog Parc Mynydd Catoctin yn Frederick County, ger trefi Thurmont ac Emmitsburg, yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America. Saif rhyw 62 milltir (100 km) i ogledd-orllewin y brifddinas Washington, D.C., lle mae preswylfa swyddogol yr arlywydd, y Tŷ Gwyn. Mae safle Camp David yn cwmpasu 200 erw (81 hectar) a amgylchynir gan ffensys o'r radd eithaf o ddiogelwch. Safle filwrol yw Camp David, dan awdurdod Llynges yr Unol Daleithiau, a'i enw swyddogol yw'r Naval Support Facility Thurmont. Fe'i gweinyddir gan Swyddfa Filwrol y Tŷ Gwyn. Daw'r mwyafrif o weithwyr Camp David o'r llynges, yn enwedig y Seabees a Chorfflu'r Peirianwyr Sifil, a Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau.
Adeiladwyd y safle ym 1935–38 gan y Weinyddiaeth Brosiectau Gwaith (WPA), un o asiantaethau'r Fargen Newydd, fel gwersyll i asiantau'r llywodraeth ffederal a'u teuluoedd. Sefydlwyd y breswylfa gan yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt ym 1942 dan yr enw Shangri-La, enw'r paradwys yn Nhibet yn y nofel Lost Horizon (1933) gan James Hilton. Fe'i dynodwyd yn breswylfa wledig swyddogol yr arlywydd gan Harry S. Truman ym 1945. Ailenwyd y safle gan Dwight D. Eisenhower yn Camp David, ar ôl ei ŵyr, ym 1953. Mae Camp David yn cynnwys ystafelloedd i'r arlywydd a'i deulu a swyddfa iddo, pwll nofio, a neuadd gyfarfod.[1] Yn ystod ei hanes mae wedi cynnal nifer o gyfarfodydd pwysig rhwng yr arlywydd ac arweinwyr gwledydd eraill, gan gynnwys ymweliad Nikita Khrushchev, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, yn ystod arlywyddiaeth Eisenhower ym 1959; y trafodaethau dan wahoddiad yr Arlywydd Jimmy Carter ar gyfer Cytundebau Camp David ym 1978 a arwyddwyd gan Anwar Sadat, Arlywydd yr Aifft, a Menachem Begin, Prif Weinidog Israel; y gynhadledd rhwng yr Arlywydd Bill Clinton, Ehud Barak, Prif Weinidog Israel, ac Yasser Arafat, Arlywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, yn 2000; a 38ain Uwchgynhadledd yr G8 yn 2012.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Camp David. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2021.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Michael Giorgione, Inside Camp David: The Private World of the Presidential Retreat (Efrog Newydd: Little, Brown & Co., 2017).