Canol Swydd Bedford
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr |
---|---|
Prifddinas | Chicksands |
Poblogaeth | 274,000 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Bedford (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 715.6654 km² |
Yn ffinio gyda | Luton |
Cyfesurynnau | 52.0263°N 0.4906°W |
Cod SYG | E06000056 |
GB-CBF | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Central Bedfordshire Council |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Bedford, De-orllewin Lloegr, yw Canol Swydd Bedford (Saesneg: Central Bedfordshire).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 716 km², gyda 288,648 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â Bwrdeistref Bedford i'r gogledd a Bwrdeistref Luton i'r de-ddwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Buckingham i'r gorllewin, a Swydd Gaergrawnt a Swydd Hertford i'r dwyrain.
Ffurfiwyd yr ardal fel awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2009 pan unwyd y ddwy ardal an-fetropolitan Canol Swydd Bedford a De Swydd Bedford, a oedd gynt dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Bedford.
Rhennir yr awdurdod yn 79 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys ym mhentref Chicksands. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Ampthill, Arlesey, Biggleswade, Dunstable, Flitwick, Houghton Regis, Leighton Buzzard, Linslade, Potton, Sandy, Shefford, Stotfold a Woburn
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 28 Hydref 2020