Neidio i'r cynnwys

Cerrynt trydanol

Oddi ar Wicipedia
Cerrynt trydanol
Mathcurrent Edit this on Wikidata
Yn cynnwysion current Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwifren copor nodweddiadol o ddyfais trydanol

Cerrynt trydanol yw llif o wefr drydanol. Mewn cylchedau trydanol gall y wefr drydanol yma gael ei gario drwy naill ai symud electronau ar weiren, neu drwy gario ïonau ar electrolyt. Gall y ddau yma ddigwydd gyda'i gilydd, yr electronau a'r ïonau, fel a wneir mewn plasma.[1]

Mesurir cerrynt trydanol mewn amperau gan ddefnyddio amedr.

Mae llif cerrynt yn achosi cynhesu Joule, sydd yn ei dro'n creu golau mewn bylbiau; mae hefyd yn creu maes magnetig, a ddefnyddir mewn modur, anwythydd a generadur.

Mae cerrynt yn llifo'n hawdd trwy rai deunyddiau ond mae'n anodd iddo lifo drwy ddefnyddiau eraill. Dargludyddion yw'r enw ar ddeunyddiau y mae cerrynt yn llifo'n hawdd drwyddynt; y metalau arian, copr ac alwminiwm er enghraifft. Yr enw ar y deunyddiau sydd yn ei gwneud hi'n anodd i gerrynt lifo yw ynysyddion. Mae plastigion fel PVC, polythen a persbecs, a gwydr a rwber yn ynysyddion da.

Mae cerrynt yn llifo drwy wifren neu ddeunydd oherwydd yr electronau rhydd, mewnol; os oes llawer ohonynt (e.e. copr) bydd y dargludydd yn un da. Os na fydd llawer ohonynt (e.e. PVC) bydd yn ynysydd da. Mae yna lawer o ddeunyddiau sy'n ddargludyddion trydanol da sydd hefyd yn ddargludyddion gwres da. Gall trydan lifo drwy nwyon a hefyd hylifau anfetalaidd, mae hyn oherwydd yr ïonau positif a negatif sydd ganddynt.

Hafaliad cerrynt yw:

lle:
I yw'r cerrynt a lifith
yw'r newid mewn cerrynt trydanol
yw'r newid mewn amser

Cerrynt union a cherrynt eiledol

[golygu | golygu cod]

Defnyddir y byrfoddau DC ac AC am gerrynt union a cherrynt eiledol yn rhyngwladol.

Cerrynt union

[golygu | golygu cod]

Mae prosesau cemegol y tu mewn i gell drydanol neu fatri yn creu grym electromotif ac felly fe wnëir gwahaniaeth potensial rhwng y terfynellau. Pan gysylltir y terfynellau gan ddolen ddargludo (cylched) mae'r wefr yn symud ac fe wnëir gwaith arni. Ffynhonnell y wefr symudol (yr electronnau) yw terfynell negatif y batri a fydd yn derbyn cyflenwad o electronau o ganlyniad i brosesau cemegol, a bydd yn ei gwrthyrru i mewn i'r gylched. 'Sinc' electronau yw terfynell positif y batri: mae electronau yn llifo i mewn iddo ac yn cyfuno â'r ïonau positif y tu mewn i'r batri. Nid yw gwahaniaeth potensial y terfynellau'n newid ac mae cyfeiriad y llif o amgylch y gylched yn gyson. Dyma gerrynt union syml.

Cerrynt eiledol

[golygu | golygu cod]

Mewn generadur syml mae coil yn cylchdroi mewn maes magnetig. Mae un ochr y coil yn cylchdroi yn mynd trwy'r maes magnetig i un cyfeiriad a'r ochr arall i'r llall. Mae'r llif gwefrau a anwythir yn newid cyfeiriad hefyd. Dyma gerrynt eiledol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lakatos, John (Mawrth 1998). "Learn Physics Today!". Lima, Peru: Colegio Dr. Franklin D. Roosevelt. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-27. Cyrchwyd 2009-03-10. Unknown parameter |coauthors= ignored (help)