Clefri poeth
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd diffyg maethiad, ascorbic acid deficiency, vitamin deficiency, clefyd |
Dyddiad darganfod | 2000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Clefyd sy'n ganlyniad i ddiffyg fitamin C yw'r clefri poeth (hefyd clafri poeth,[1] y llwg, y sgyrfi a sciabas;[2] Saesneg: scurvy). Mae symptomau yn cynnwys gwendid, blinder, a breichiau a choesau poenus. Heb ei drin, gall arwain at leihad yng nghelloedd coch y gwaed, llid y deintgig, newidiadau i wallt, a gwaedu o'r croen. Wrth i'r clefyd waethygu, gall amharu ar allu clwyfau i wella, achosi newid ym mhersonoliaeth y claf, ac arwain yn y pen draw at farwolaeth o haint neu waedu.
Fel arfer, mae'r clefri poeth yn cael ei achos gan ddiffyg fitamin C yn y deiet. Mae'n cymryd o leiaf mis gydag ychydig neu ddim fitamin C o gwbl cyn y gwelir y symptomau. Erbyn heddiw, mae i'w weld amlaf mewn pobl sy'n dioddef o salwch neu gyflwr meddwl, bwyta anarferol, alcoholiaeth neu henoed sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Mae ffactorau risg eraill hefyd yn cynnwys dialysis a gallu'r perfedd i dreulio bwyd. Mae diagnosis fel arfer yn seiliedig ar arwyddion corfforol, pelydrau X, a gwellhad ar ôl triniaeth.
Mae'n cael ei drin atchweniadau fitamin C sy'n cael eu cymryd trwy'r ceg. Mae gwelliant yn aml i'w weld mewn ychydig ddyddiau gyda gwellhad llwyr mewn ychydig wythnosau. Mae ffynonellau fitamin C yn cynnwys ffrwythau sitrws, tomatos a nifer o lysiau fel tatws. Mae coginio yn aml yn lleihau fitamin C mewn bwydydd.
Mae'r clefri poeth yn anghyffredin ar hyn o bryd. Mae i'w weld amlaf yn y byd sy'n datblygu mewn perthynas â diffyg maeth. Ceir adroddiadau bod cyfraddau ymhlith ffoaduriaid rhwng 5% a 45%. Ceir disgrifiadau cynnar o'r clefyd yn hen wlad yr Aifft. Roedd yn cyfyngu ar bellter mordeithiau ar un adeg, ac yn arwain at farwolaeth nifer fawr o deithwyr. Llawfeddyg yn y Llynges Frenhinol, James Lind, oedd y cyntaf i brofi ei fod yn gallu cael ei drin gyda ffrwythau sitrws, a chyhoeddodd ei ddarganfyddiad mewn cylchgrawn yn 1753. Ei arbrofion oedd y rhai cyntaf i'w cynnal mewn dull oedd wedi'i reoli. Aeth deugain mlynedd arall heibio cyn y dechreuodd y Llynges ddosbarthu sudd lemwn yn rheolaidd i osgoi'r clefyd.
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Achosion, symptomau y Llwg gwefan NHS Cymru
- Why Scurvy Shouldn't Exist fideo SciSchow
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ clafri. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mawrth 2023.
- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "scurvy"