Corff hadol neu ffrwythgorff ydy'r ffurfiannau ffyngaidd sy’n dwyn naill ai’r sborau neu’r organau sy’n cynhyrchu’r sborau (sef sborangia). Er enghraifft, basidiocarpau basidiomysetau (caws llyffant, madarch a ffyngau ysgwydd) neu asgocarpau asgomysetau. Fe’u gelwir hefyd yn sborofforau.